Syniadau Iach-logo

Syniadau Iach

Health & Wellness Podcasts

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

Location:

United Kingdom

Description:

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

Twitter:

@hwbgbcymru

Language:

Welsh


Episodes

Dyfodol digidol y GIG

7/11/2022
Mae Syniadau Iach yn croesawu Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i drafod technoleg a’r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o’r GIG y dyfodol.

Duration:00:26:14

Datblygu technoleg ddwyieithog: ydy Cymru ar flaen y gad?

7/4/2022
Mae Syniadau Iach yn edrych ar dechnoleg gynorthwyol ac yn gofyn ydy Cymru yn colli cyfle i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu a darparu systemau dwyieithog? Mae Huw Marshall o Annwen Cymru a Gareth Rees o Lesiant Delta yn trafod.

Duration:00:25:31

A all deallusrwydd artiffisial drawsnewid diagnosis cleifion Cymru?

6/27/2022
Gall yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanon ni drawsnewid diagnosis a darpariaeth gofal iechyd i gleifion Cymru? Mae Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn trafod.

Duration:00:23:20

Pa ddata amdanom ni mae’r GIG yn casglu, a sut mae’n cael ei ddefnyddio

6/20/2022
Mae Syniadau Iach yn gofyn faint o wybodaeth sydd gan y gwasanaeth iechyd a gofal amdanom ni? Sut mae’r wybodaeth yma yn cael ei defnyddio? Mae Richard Walker, cyn Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn trafod.

Duration:00:25:57

Tabledi lawr y draen, beth yw’r effaith amgylcheddol?

6/13/2022
Faint o fygythiad i’n hiechyd yw llygredd o gemegau fferyllol a meddyginiaethau sy’n dianc i’r amgylchedd? Mae Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ac Elen Jones o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn trafod.

Duration:00:23:29

Arloesedd yw’r allwedd i Gymru iachach - gydag Eluned Morgan AS

6/6/2022
Ym mhennod gyntaf cyfres newydd o bodlediadau Syniadau Iach, mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu rhywfaint o’i syniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y GIG ar ôl y pandemig.

Duration:00:16:11

Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws

7/6/2020
Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn. Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig. Mae’n...

Duration:00:25:31

Lledaenu a Graddfa

6/3/2020
Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai. Fe...

Duration:00:25:18

Lledaenu a Graddfa

4/8/2020
Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai. Fe...

Duration:00:25:20

Arloesi Digidol

3/26/2020
Gall Cymru fod ar flaen y gad mewn datblygu suystemau digidol ym maes iechyd a gofal medd dau o arbenigwyr technoleg. Yn y podlediad hwn bydd Dr Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito yn Wrecsam a’r dylunydd Dyfan Searrell yn parhau gyda’u trafodaeth gyda’r cyflwynydd Dr Rhodri Griffiths ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu datblygu technolegau a meddalwedd newydd er budd cleifion yng Nghymru. Gyda rhai o sustemau cyfrifiadurol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn...

Duration:00:24:11

Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran

8/12/2019
Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro. Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd. “Mae gan y GIG enw da ac mae cyfle gyda ni i fod ar y blaen, ond mae angen llai o gymhlethdodau yn y broses,” meddai. “Mae maint Cymru yn berffaith i ddangos bod sustemau...

Duration:00:25:52

Hac Iechyd Cymraeg

7/16/2019
Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg? Mae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod at bwy i droi. Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar yr Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, lle daeth...

Duration:00:26:51

Creu cymunedau iach yng Nghymru

6/4/2019
Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro Syr Michael Marmot,(LINK) sy’n Athro Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a...

Duration:00:19:41

A all meddalwedd API wella gofal i gleifion?

5/21/2019
Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop archfarchnad wythnosol ar eich gliniadur, byddwch wedi defnyddio API (Rhyngwyneb Rhaglenni Cymhwysiad). Mae'n god sy'n caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo o un defnyddiwr i'r llall - a hebddo, byddai'r rhyngrwyd fel y gwyddom, yn ei chael hi'n anodd bodoli. Mae APIs eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG ond a ellid...

Duration:00:25:40

Gofal iechyd Cymru’r dyfodol

5/14/2019
Mae Syniadau Iach yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â’r ffordd y gall arloesedd wella’r byd iechyd a gofal yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid ddefnyddio arloesedd i wella’r sefyllfa. “Bydd arloesi’n cynnig nid yn unig ffordd i wella gofal iechyd ond bydd yn ein helpu ni ar y daith i sicrhau Cymru fwy cyfartal,” meddai. Yn y podlediad hwn...

Duration:00:29:17

Rhagnodi Cymdeithasol

5/7/2019
Sut mae rhagnodi cymdeithasol yn trawsnewid y byd iechyd a gofal? Ydy cleifion Cymru yn elwa o’r arloesedd yma? Pan fydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynd at y meddyg, byddan nhw’n disgwyl mynd o’r syrjeri gyda phresgripsiwn am foddion neu gyffuriau. Ond mae rhagnodi cymdeithasol yn golygu bod y meddyg a’r claf yn edrych tu hwnt i’r symptomau meddygol ac yn yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pobl mewn ffordd holistaidd. Yn ôl Sara Thomas, ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd...

Duration:00:21:40

Syniadau Iach

4/22/2019
Mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

Duration:00:00:51