Haclediad - Hacio'r Language-logo

Haclediad - Hacio'r Language

Technology Podcasts >

More Information

Location:

United Kingdom

Twitter:

@haciaith

Language:

Welsh


Episodes

Pawb at y Biji-bô!

9/18/2019
More
Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr: Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record. Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef (https://twitter.com/llef) / @Iestynx (https://twitter.com/iestynx) / @Bryns (https://twitter.com/bryns) 🙏

Duration:01:05:06

Ffeindia dy poni mewnol

8/3/2019
More
Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman!

Duration:01:40:54

FaceBucks

6/26/2019
More
Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3. Mae'r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic! Diolch am danysgrifio ☺️

Duration:01:45:41

Huawehei!

5/28/2019
More
Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a'r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae'r A-Gin-Da, Game/Gay of Thrones, spoilers Endgame a thollti te yn yr After parti, joiwch! Special Guest: Geraint Howells.

Duration:02:02:37

Mae Popeth Yn Ossym!

4/9/2019
More
Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan… Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rîli’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o gwbl! 🙌

Duration:00:33:19

Sneaky Nest a Robo-Iest

3/15/2019
More
Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets! Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!) Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd - Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a datblygiadau’r gynhadledd i’r byd digidol Cymraeg. Ymddiheuriadau am safon sain Iestyn, mae o’n...

Duration:01:34:12

Super-Techy-Gwylio Bocsets-Marie-Kondo-trocious

1/19/2019
More
Mae criw’r Haclediad yn hitio 2019 yn galed ym mhennod gyntaf 2019 - bydd Bryd, Iestyn a Sioned yn trafod iTunes a telis newydd, bocs sets S4C, diffodd social media a spoiler special afterparty cyfan ar Mary Poppins. Hoffwch, rhannwch a gadwch sylw!

Duration:01:25:34

Tri Gwirod Doeth

12/21/2018
More
Mae'r tân yn craclo, yr hors d'oeuvres allan o'r tupperware a mae Iest yn gwisgo ei hoff ffroc goctail sbarcli - ydi, mae'n amser am barti Nadolig yr Haclediad! Yn y garthen glyweledol yma bydd Iest, Sions a Bryn yn yfed gormod, trafod eu hoff ddarnau o'r flwyddyn AC YN TRIO AROS YN BOSITIF!

Duration:01:51:21

Ffototal Wipeout

11/12/2018
More
Ar bennod mis tywyll Tachwedd - bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley. Yn yr afterparty mae hi’n Llyfr Glas Nebo spoiler-tastic, da ni’n Stanio’r doctor newydd, ynghyd â llwyth o sgwrs ffilms, teli a Gin (wrth gwrs)

Duration:01:30:15

Toilet BlockChain

10/1/2018
More
Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOs12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall y blockchain efo podlediad ZigZag (spoilyrs: dal dim clem). Diolch am wrando – gwaeddwch ar @llef (https://twitter.com/llef) @Bryns (https://twitter.com/bryns) neu @Iestynx (https://twitter.com/iestynx) efo unrhyw...

Duration:01:38:44

Llyfr Glas Kobo

8/18/2018
More
Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd ‘Y Pod’, planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a wifi.

Duration:01:07:33

Yn Fyw o’r Boudoir

6/15/2018
More
Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL (sori am fwy o Facebook, ni’n trio stopio onest) Wedyn, neidiwch mewn i’r afterparty lle mae pethe’n gwella lot. Wir ‘wan. Diolch i bawb am danysgrifio – rêtiwch ni ar iTunes!

Duration:01:18:11

Google Assiffestant

5/13/2018
More
Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch!

Duration:00:34:38

Zuckin’ Hell

4/16/2018
More
Y tro yma ar yr Haclediad, ni'n mynd am deep dive mewn i uffern Facebook, Cambridge Analytica, ac mae Bryn yn treulio'r awr a hanner gyntaf yn ysgwyd ei ben a mwmian "be oeddech chi'n disgwyl?" OND arhoswch am yr afterparty am lwyth o hunan ofal, pobi, ac awgrymiadau be i wylio/gwrando arno am y mis nesa.

Duration:01:53:57

Iâ Iâ Baby

3/9/2018
More
Y tro yma ar yr Haclediad rhewllyd, bydd Bryn, Iest a Sions yn gwirioni dros Waze Cymraeg, smart sbecs sy’n edrych yn union fel rhai Bryn ac Elon Musk yn fflingio mwy o bethau i’r gofod. Plis sdiciwch adolygiad yn iTunes os gewch chi 5 munud fyd, ffankiw!

Duration:00:47:32

Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed

2/8/2018
More
Croeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!

Duration:01:05:04

May The Port Be With You

12/22/2017
More
Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018! O.N. Danfonwch yr isod i mewn atom: datblygiad tech gorau i ti ffendio leni hoff app teclyn alli di ddim byw hebddo peth brawychus y flwyddyn peth positif y...

Duration:00:54:42

Drive By Sextoy Hack-lediad

11/18/2017
More
Ar yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C - llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma. Welwn ni chi tro nesa am y parti ‘Dolig!

Duration:01:58:26

iOS gafr eto?

10/7/2017
More
Mae criw’r haclediad yn dychwelyd i tech o’r diwedd! Llwyth o stwff sgleiniog Silicon Valley, Zuckerberg yn agor y bocs ac oes pwynt mewn gajets o gwbl? Arhoswch am yr after party am yr Iest Rhest a llwythi mwy!

Duration:01:23:53

Social Justice Warriars

9/8/2017
More
Mae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz. Welwn ni chi mis nesa, diolch am wrando dwds!

Duration:01:26:50