Podlediad f8-logo

Podlediad f8

1 Favorite

More Information

Location:

United Kingdom

Genres:

Podcasts

Twitter:

@fideowyth

Language:

Welsh


Episodes

Merched mewn sci fi, ffantasi a gemau fideo

5/31/2017
More
Sgwrs efo Elan Grug Muse a Miriam Elin Jones ynglyn a sut mae nhw'n gweld tirwedd cynrychiolaeth merched ym mydoedd gemau fideo, sci fi a ffantasi. Daf Prys sy'n sdryglo i ddal i fyny efo rhain.

Duration: 00:38:42


Pennod 8: "Daf Prys A'i Geg Hud"

2/28/2017
More
Y podlediad rhyng-gyfandirol cyntaf yn y Gymraeg, efo Daf yn Seattle ac Elidir ym Mangor! Medal arall i f8, plis. Ar y sioe mis yma: - Daf yn rhoi'r holl hanesion am ei drip i sioe DICE yn Las Vegas. - Argraffiadau Elidir o Nioh, Gwent, Crypt Of The Necrodancer, a Ghost Recon: Wildlands. - Edrych ymlaen at y gêm Elder Scrolls nesa, ac at Middle-Earth: Shadow Of War. - Daf yn rhannu ei brofiadau cyntaf efo'r Nintendo Switch, ac edrych ymlaen at y lawnsiad. - Cyflwyniad i'r gêm blatfform. -...

Duration: 01:15:13


Pennod 7: "Y Switchlediad"

1/20/2017
More
Pennod 7! Chydig yn gynharach na'r arfer achos bod Daf yn gwneud y peth call a symud i wlad sy'n cael ei redeg gan Donald Trump. Mis yma: - Yr holl gemau sydd wedi bod yn gwneud ein bywydau ni'n well ar ddechrau'r flwyddyn. Shantae: Half-Genie Hero! Valkyria Chronicles! Valiant Hearts: The Great War! Overwatch! - Talp anferth o'r podlediad yn mynd ar drafod ein gobeithion a'n pryderon ar gyfer y Nintendo Switch. Strapiwch eich hun i mewn. - Cyflwyniad i fyd cyffrous(ish) motion control....

Duration: 01:10:57


Pennod 5: "Pa Reich Oedd E?"

11/30/2016
More
Pennod 5! Rargol. - Trafodaethau ar Rise Of The Tomb Raider! Everybody's Gone To The Rapture! Dishonored 2! Titanfall 2! Battlefield 1! Iasgob. - Yn y newyddion: mae 'na gêm newydd ar gael yn y Gymraeg! Mae 'na stwff swmpus wedi ei ychwanegu i No Man's Sky o'r diwedd! Ella bod y gêm Zelda newydd am gael ei wthio'n ôl... eto! A mymryn o newyddion annisgwyl am neb llai na Sonic the Hedgehog! - Daf yn rhoi cyflwyniad i'r dechnoleg newydd sy'n mynd i wneud i'ch gemau edrych gymaint gwell ar...

Duration: 01:20:13


Pennod 4: "Pyrfyn Digidol"

10/28/2016
More
Pennod 4! Indiana Jones And The Kingdom Of The Crystal Skull. Jurassic World. Police Academy 4: Citizens On Patrol. Your boys took a hell of a beating. Wythnos yma: - Trafodaeth ddwys am y Playstation VR a'r holl gemau mae'r hogia wedi bod yn eu profi. Ac mae 'na lot ohonyn nhw. Hefyd mymryn bach o stwff am gemau hen-ffasiwn diflas fel Shu, Duke Nukem 3D, a Battlefield 1. - Cynnwrf anferth dros ddatgeliad hir-ddisgwyliedig y Nintendo Switch, sy'n cael ei drin a'i drafod hyd ebargofiant....

Duration: 01:15:45


Pennod 2: "Bazooka Business"

8/29/2016
More
Ail bennod! Ail! Bennod! 'Da ni'n llwyddiant. Yn swyddogol. Wythnos yma: - Y gemau diweddara mae'r bechgyn wedi bod yn eu byseddu. Gan gynnwys: No Man's Sky! Deus Ex: Mankind Divided! The Legend Of Zelda: Twilight Princess HD! The Walking Dead: Michonne! 10 Second Ninja X! Rogue Legacy! - Newyddion gemau yr wythnos o sioe Gamescom. Yn trafod datgelu Metal Gear Survive, ymdrechion Blizzard i droi mewn i Pixar, pa mor dda mae Star Citizen yn edrych, fersiynau sgleiniog newydd y PS4 a'r Xbox...

Duration: 01:14:42


Pennod 1: "Custard Slice Taclus"

7/28/2016
More
Newyddion da o lawenydd mawr, wrth i Daf ac Elidir o fideowyth.com gychwyn podlediad Cymraeg newydd, yn trafod pob datblygiad ym myd y gemau, ac yn y byd nyrdaidd mwy eang. I gicio pethau off: - Gawn ni glywed am pa gemau mae'r bois wedi bod yn eu chwarae, yn lle mynd allan a chyfarfod merched. Gan gynnwys Overwatch, Doom, The Witcher 3, a Blood Bowl 2. - Mwydro swmpus am bopeth i ddod allan o Nintendo HQ yn ddiweddar. Ac mae 'na lot. Pokemon Go, yr NX, yr NES Classic Edition... a mwy!...

Duration: 01:16:38