
Location:
United Kingdom
Genres:
Podcasts
Description:
Mwydro a malu awyr am nyrdrwydd a gemau. Yn Gymraeg.
Twitter:
@fideowyth
Language:
Welsh
Website:
http://fideowyth.com
Episodes
Sdim Byd Gwell Na Cracio Pac ar Agor
3/27/2018
Elidir a Daf yn trafod gemau cardiau, rhai corfforol a digidol, y gwahaniaethau rhwng y systemau, eu llwyddiannau a gwendidau a dipyn bach o hanes y genre is o'r nyrdfyd. Ymestynwch eich slipars, mae'n amser paned i'r clustiau.
Duration:00:39:04
Pennod 10: "Nid Aur Yw Popeth Retro"
2/26/2018
Ar ôl unarddeg mis o ddisgwyl, mae Pod Wyth yn ôl! Allwch chi gredu'r peth? Wedi ei recordio, am y tro cynta erioed, efo'r cyflwynwyr yn yr un ystafell. Ac yn cynnwys sgiliau golygu proffesiynol Daf Prys. Disgwyliwch lot o jingls ffansi. Yn rhifyn #10 (nid rhifyn #11, dim ots be 'dan ni'n ei ddweud yn y bennod): - Yr holl gemau sydd wedi bod yn ein ticlo ni'n ddiweddar. Monster Hunter World! Celeste! Slay the Spire! Battlefield! A trafodaeth ehangach o gemau 'battle royale'. - Yn y...
Duration:01:08:48
Merched mewn sci fi, ffantasi a gemau fideo
5/31/2017
Sgwrs efo Elan Grug Muse a Miriam Elin Jones ynglyn a sut mae nhw'n gweld tirwedd cynrychiolaeth merched ym mydoedd gemau fideo, sci fi a ffantasi. Daf Prys sy'n sdryglo i ddal i fyny efo rhain.
Duration:00:38:42
Pennod 8: "Daf Prys A'i Geg Hud"
2/28/2017
Y podlediad rhyng-gyfandirol cyntaf yn y Gymraeg, efo Daf yn Seattle ac Elidir ym Mangor! Medal arall i f8, plis. Ar y sioe mis yma: - Daf yn rhoi'r holl hanesion am ei drip i sioe DICE yn Las Vegas. - Argraffiadau Elidir o Nioh, Gwent, Crypt Of The Necrodancer, a Ghost Recon: Wildlands. - Edrych ymlaen at y gêm Elder Scrolls nesa, ac at Middle-Earth: Shadow Of War. - Daf yn rhannu ei brofiadau cyntaf efo'r Nintendo Switch, ac edrych ymlaen at y lawnsiad. - Cyflwyniad i'r gêm blatfform. - Y...
Duration:01:15:13
Pennod 7: "Y Switchlediad"
1/20/2017
Pennod 7! Chydig yn gynharach na'r arfer achos bod Daf yn gwneud y peth call a symud i wlad sy'n cael ei redeg gan Donald Trump. Mis yma: - Yr holl gemau sydd wedi bod yn gwneud ein bywydau ni'n well ar ddechrau'r flwyddyn. Shantae: Half-Genie Hero! Valkyria Chronicles! Valiant Hearts: The Great War! Overwatch! - Talp anferth o'r podlediad yn mynd ar drafod ein gobeithion a'n pryderon ar gyfer y Nintendo Switch. Strapiwch eich hun i mewn. - Cyflwyniad i fyd cyffrous(ish) motion control. Neu...
Duration:01:10:57
Pennod 6: "Blincin' Peru"
12/31/2016
Pennod 6! Chwe mis o'r nonsens yma! Well i rhywun wneud teisen neu rhywbeth felly. Yn y bennod hon: - Pow-wow bach am gemau'r flwyddyn a fu, cyn i ni symud ymlaen i drafod Watch Dogs 2, Batman: The Telltale Series, Titanfall 2, a Warhammer: End Times - Vermintide. - Edrych ymlaen at rhai o gemau mawr 2017, tra'n glafoerio'n awchus. - Be yn union ydi'r gwahaniaeth rhwng datblygwyr a chyhoeddwyr? Daf sy'n esbonio. - 'Da ni'n colli'n meddyliau'n llwyr dros Rogue One, yn clywed am fwy o ffilmiau...
Duration:01:13:13
Pennod 5: "Pa Reich Oedd E?"
11/30/2016
Pennod 5! Rargol. - Trafodaethau ar Rise Of The Tomb Raider! Everybody's Gone To The Rapture! Dishonored 2! Titanfall 2! Battlefield 1! Iasgob. - Yn y newyddion: mae 'na gêm newydd ar gael yn y Gymraeg! Mae 'na stwff swmpus wedi ei ychwanegu i No Man's Sky o'r diwedd! Ella bod y gêm Zelda newydd am gael ei wthio'n ôl... eto! A mymryn o newyddion annisgwyl am neb llai na Sonic the Hedgehog! - Daf yn rhoi cyflwyniad i'r dechnoleg newydd sy'n mynd i wneud i'ch gemau edrych gymaint gwell ar eich...
Duration:01:20:13
Pennod 4: "Pyrfyn Digidol"
10/28/2016
Pennod 4! Indiana Jones And The Kingdom Of The Crystal Skull. Jurassic World. Police Academy 4: Citizens On Patrol. Your boys took a hell of a beating. Wythnos yma: - Trafodaeth ddwys am y Playstation VR a'r holl gemau mae'r hogia wedi bod yn eu profi. Ac mae 'na lot ohonyn nhw. Hefyd mymryn bach o stwff am gemau hen-ffasiwn diflas fel Shu, Duke Nukem 3D, a Battlefield 1. - Cynnwrf anferth dros ddatgeliad hir-ddisgwyliedig y Nintendo Switch, sy'n cael ei drin a'i drafod hyd ebargofiant....
Duration:01:15:45
Pennod 3: "Daf Apathy"
9/29/2016
Pennod 3? 'Da chi'n jocian ta be? Wythnos yma: - Yr hogia wedi bod yn ymweld ac ail-ymweld â The Witcher 3 a Middle-Earth: Shadow Of Mordor, wedi dablo efo Adr1ft, ac wedi trio mymryn o VR, rhwng mynd drwy gyfnodau o salwch difrifol iawn - "gaming malaise". - Yr holl newyddion am ddatgeliad y PS4 Pro a Super Mario Run, ac adroddiad amaturaidd iawn o sioe fawreddog EGX yn Birmingham. - Cyflwyniad arall i agwedd penodol o gemau - tro 'ma, mae pethau'n mynd yn dechnegol wrth i'r "ladz" drafod...
Duration:01:15:26
Pennod 2: "Bazooka Business"
8/29/2016
Ail bennod! Ail! Bennod! 'Da ni'n llwyddiant. Yn swyddogol. Wythnos yma: - Y gemau diweddara mae'r bechgyn wedi bod yn eu byseddu. Gan gynnwys: No Man's Sky! Deus Ex: Mankind Divided! The Legend Of Zelda: Twilight Princess HD! The Walking Dead: Michonne! 10 Second Ninja X! Rogue Legacy! - Newyddion gemau yr wythnos o sioe Gamescom. Yn trafod datgelu Metal Gear Survive, ymdrechion Blizzard i droi mewn i Pixar, pa mor dda mae Star Citizen yn edrych, fersiynau sgleiniog newydd y PS4 a'r Xbox...
Duration:01:14:42
Pennod 1: "Custard Slice Taclus"
7/28/2016
Newyddion da o lawenydd mawr, wrth i Daf ac Elidir o fideowyth.com gychwyn podlediad Cymraeg newydd, yn trafod pob datblygiad ym myd y gemau, ac yn y byd nyrdaidd mwy eang. I gicio pethau off: - Gawn ni glywed am pa gemau mae'r bois wedi bod yn eu chwarae, yn lle mynd allan a chyfarfod merched. Gan gynnwys Overwatch, Doom, The Witcher 3, a Blood Bowl 2. - Mwydro swmpus am bopeth i ddod allan o Nintendo HQ yn ddiweddar. Ac mae 'na lot. Pokemon Go, yr NX, yr NES Classic Edition... a mwy! Ella....
Duration:01:16:38