Haclediad - Hacio'r Language-logo

Haclediad - Hacio'r Language

Technology Podcasts

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Location:

United Kingdom

Description:

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Twitter:

@haciaith

Language:

Welsh


Episodes

Byth Di Bod i Japan

5/28/2023
Mae’r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o’r diwedd -yup, mae’r haf yn dod! Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension 😨 Hefyd y mis yma fe gewch chi chydig iawn o actual newyddion tech, a llwyth o travel vlog Sions wrth iddi ddychwelyd o daith gyfareddol i Japan 🗾 Hyn oll a llawer mwy ar Haclediad Mis Mai! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, rhannu a hoffi’r sioe - chi werth y byd ❤️

Duration:02:39:19

AI Generated Gwynfor Evans

4/29/2023
Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi. Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN! A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?! Yr atebion i hyn a llawer mwy yn Haclediad 121! Diolch am wrando, etc!!

Duration:02:40:03

Pennod Mis Mawrth but make it Mis Ebrill / “Cocaine be?!”

4/2/2023
Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill! Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM! Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad) 😘 ☕ Diolch eto, a welwn ni chi ddiwedd y mis 😍

Duration:02:21:09

The Iest and the Furious

2/23/2023
Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid! Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7 Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi! 😘

Duration:02:46:05

Sh*tcake Mushrooms

1/29/2023
Blwyddyn newydd dd- wps! OK so mae'r Haclediad braidd yn hwyr efo'r cyfarchion, ond dyma chi gwerth mis arall o #cynnwys tech a pop culture i'ch cadw i fynd yn 2023! Da ni'n popio draw i CES i weld skins newydd i dy gar, sensor piso a sut i optimeiddio dy hun i fod yn super hiwman. Ond pwy sydd angen hiwmans pan fydd AI yn neud y job drosa ni eniwe? Ffilm di ddim y mis ydy'r epic oesol Warcraft gan ffrind y sioe Duncan Jones - a bydd Iest, Bryn a Sions yn argymell beth ddylai chi wylio yn lle hwnnw yn yr after party. Joiwch, diolch am bob cyfraniad (https://ko-fi.com/haclediad) a welwn ni chi mis nesa!

Duration:02:30:21

Sharknadodolig on Ice

12/24/2022
Da ni’n dathlu heuldro’r gaeaf yn yr unig ffordd bosib eleni - efo llwyth o booze a ffilm ofnadwy(o dda!) Iep, mis yma ni’n parhau i CSI-io diwedd Twitter, yn gegrwth efo sgams FTX, ac yn dathlu FIND Y FLWYDDYN gan Iest - ffilm A CHRISTMAS ICETASTROHE (2014) Diolch o galon i chi GYD am wrando, cyfrannu a chefnogi elenni - welwn ni chi am fwy yn 2023 🥰

Duration:03:03:03

Twit-Ty-Whodunnit

11/30/2022
OK bawb, mae'n gwdyn cymysg o'r gwych a'r gwallgof heno ar eich hoff bodlediad tech-a-phopeth arall, croeso ir gaeaf! Setlwch nôl efo mulled wine a neidiwch mewn i gornel crypto enfawr wrth i Iestyn drio esbonio be ddiawl sy'n digwydd 😅 Ry'n ffarwelio â cartref y we Gymraeg ers degawd wrth i Twitter gwympo'n ddarnau dan Elon Musk... Ac heb anghofio, mae'n dymor y siwmperi a charthenni, felly fe wylion ni Ffilm I'r Dim mis yma - See How They Run, cwtshwch lan a neidiwch mewn 🛋️

Duration:02:51:53

NFCheese

10/29/2022
Gyda tymor sbŵci ar ein pennau bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn neidio mewn i newyddion tech/bywyd/popeth yr hydref - ydy Rishi Sunak yn crypto bro? Hiraeth hen iPods a (diffyg) ethics apps cymdeithasol. (Recordiwyd y sioe cyn i Elon Musk actually brynu Twitter tho, sori!) Ffilm di ddim y mis ydy John Carter, ydy’r 10 mlynedd ers iddo agor wedi newid y feirniadaeth arno…? (sboilers: mae un o’r criw yn flin am y peth!) Diolch o galon eto i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r sioe bob mis 🥹

Duration:02:48:35

Contrepreneurs

9/30/2022
Oeddech chi’n meddwl bod dim Haclediad am fod mis yma? Dim y fath lwc, yn hwyr neu’n hwyrach dyma hi, Haclediad mis Medi! Mae Bryn yn ôl o’i wyliau yn yr Eidal (dydi o ddim yn licio siarad amdano) ac yn barod i drafod newyddion tech efo Iestyn a Sioned. Bydd y criw yn trafod fideo newydd Dan Olson am Evans passive income, hardware newydd Amazon a cynhyrchiad theatr / ffilm / arlein newydd trippy “Galwad”. Yn fwy na hyn, bydd y criw yn trafod o bosib y ffilm di ddim di-ddimiaf ohonynt i gyd: MOONFALL (spoilers: pa un o’r tri sy fwya blin efo hwn? The answer might surprise you!) Diolch o galon i bawb am gefnogi a gwrando - os hoffech chi gefnogi ni, taflwch geiniog it het fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad), neu rhannwch ni gyda’ch ffrindiau!

Duration:03:00:38

RRR-Bennig

8/29/2022
Mae’r tech yn eilradd i’r ffilm y mis yma - gyda Iestyn, Bryn a Sions yn taclo’r Ymerodraeth Brydeinig yn y FFORDD MWYAF EPIC trwy wylio/profi RRR 🤯 OK, mae na chydig o tech hefyd, gyda sŵn diffeithwch y gofod, keyloggers yn browsers eich hoff social media apps a burnout artistiaid vfx - ond gan fwyaf? RRR fancast ydy hwn mis yma (a byddwn, fyddwn ni'n sôn am y stwff problematic hefyd 😣) Diolch o galon i’n holl gyfranwyr ar Kofi, ac i bob un ohonoch chi sy’n gwrando ar y llanast yma bob mis - ni’n falch o gael chi yma 🥰

Duration:02:38:02

Rheol Goldblum's Law

7/30/2022
Dyma hi, parti haf (arall) yr Haclediad - a mae hi just digon hir i bara'r dreif i'r sdeddfod 😬 🍹 Fel Piña colada i'ch clustiau, bydd Bryn, Iestyn a Sions yn sipian drinks oer, trafod Glassholes, backlash Insta newydd a ffilm... Dda!? Yup, ar ôl dwy flynedd o 'Ffilmiau Di Ddim', mae'r criw yn swapio'r rhai gwael am 'Ffilmiau Pam Ddim?' Ac yn deifio fewn efo'r design classic mildly problematic The Man From U.N.C.L.E. 😅 Diolch o galon eto i bawb sy wedi ein cefnogi ni wrth wrando a chyfrannu i'r gronfa slush ☀️😎

Duration:02:25:01

Anadin Skywalker: The Cursed Haclediad

6/29/2022
Meddwl mai dim ond Iesu Grist oedd yn gallu atgyfodi pethe o farw'n fyw? Meddyliwch eto - trwy rhyw wyrth mae’r criw yn cyflwyno Pennod 111 i chi: The Cursed Haclediad. Mae na newyddion sentient chatbots a’r Apple WWDC yn ogystal â Ffilm di Ddim rybish go iawn (Jumper gyda Hayden Christensen);ond yn bwysicach na hynny... Mae na bennod wedi ei ryddhau mis yma diolch i Iestyn Grist ✝️😇👼 Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) 😉a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍

Duration:02:43:56

Wild Mountain Thymecoin

5/24/2022
Croeso i Haclediad arall sy’n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti’n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?” Mae’r ateb i hwn, a’ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o’r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni’n joio llenwi’ch clustiau efo’r audio equivalent o’r distraction dance - os chi awydd ymuno â’r criw ffyddlon o gyfranwyr, taflwch cwpl o bunnoedd i’r pot Ko-rfi (https://ko-fi.com/haclediad) ☺️

Duration:02:21:44

House of Chŵd-cci

4/25/2022
Os nad yw’r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill😅 Mae gyda ni 2+ awr o newyddion tech, barn heb ymchwil na gwybodaeth, a ffilm di-ddim FFYRNIG🔥 Bydd Iest, Bryn a Sions yn holi pam na chafon nhw £32k i wneud podcast am gaws efo Mark Drakeford, dwyn Netflix logins Yncl Rhyds a trio deall Bond villain plan Elon Musk - hyn i gyd cyn gwylio HOUSE OF GUCCI a lansio spin off sit-com efo Paolo👌 Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍

Duration:02:26:43

BMX Bryndits

3/27/2022
Mae’n dymor newydd, felly dyma bennod ffresh lliwgar i’r gwanwyn i chi ffam yr Haclediad - mwynhewch 2+ awr o Bryn, Iestyn a Sions yn eich clustiau. Mae ganddo ni scoop o newyddion tech go-iawn gan Iest - app Speechify a’i tech llais text-to-speech Cymraeg sy'n curo Siri. Hefyd, y newyddion tech allai helpu droi'r llanw yn rhyfel torcalonnus Iwcrain. Ffilm di ddim y mis ydy’r ridic/hyfryd/weird BMX Bandits o 1983 - ac with gwrs mae na sbrinclad o awgrymiadau ffilms, streaming a (old skool) llyfrau i gael chi trwy’r mis nesa. Diolch i bawb sy’n gwrando, ac i’r legends sy’n cyfrannu i’n Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) - chi’n wych 🤩

Duration:02:42:15

Hamiltwrd

2/18/2022
Tro yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn brwydro trwy hellscape teulu’r Windsors i gadw cwmni efo chi am y 2~ awr nesa. Yn ogystal â thrafod toxic Roblox, rhaglen ddogfen ‘The Instagram Effect’ a ffilm ddogfen anhygoel Dan Olson ‘Line Goes Up -The Problem with NFTs’; byddwn ni’n eich cyflwyno i erchylltra ‘Diana - The Musical’. So diolch i Sioned am awgrymu hwna i ni gyd, a sbwylio mis pawb. Gwd job 😬 Os hoffech chi gefnogi’r fath ffwlbri, beth am daflu cwpl o bunnoedd i’r cwpan Ko-fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad)? Diolch eto am wrando 😊

Duration:02:30:41

Hei Pen Pidyn

1/24/2022
Mae’n amser dechrau’r flwyddyn efo pennod XXL arall o’ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili 🤓 ‘Da ni wedi newid y drefn chydig mis yma, felly fe gewch chi bodlediad CYFAN cyn i ni hitio’r FfilmDiDdim, so fyny i chi lle da chi am neidio off y thrill ride o sioe 😆 Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yma i awgrymu sut i wario £7.5 miliwn o arian Digidol i S4C, newid y ffi drwydded a chwerthin ar stwff random CES ymysg llwythi o bethau eraill. #FfilmDiDdim y mis ydy’r unigryw RED NOTICE 🚨 Ydy’r isdeitlau Cymraeg yn gwneud y ffilm yn anhygoel o brofiad, neu ydy veins pen Y Rock yn transendio ffiniau iaith heb eu help? Sgipiwch y chapter markers yn syth i weld 😊 A DIOLCH MAWR IAWN i Ross Mc Farlane a Jamie am roi arian hael yn tip jar y sioe draw ar Ko-Fi (https://ko-fi.com/haclediad) - gwnewch chi’r un peth i gael shout out ar y sioe 🥳 Diolch am wrando a welwn ni chi mis nesa 😚

Duration:02:49:35

Santa-ta 2021

12/24/2021
🎉 Diolch ENFAWR i Gwyn T. Paith am tip anhygoel trw Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) fydd yn hostio’r sioe am 6 mis nesa! 😍 🎄 Dyma hi, eich epic cael-chi-trwy-Dolig Haclediad! Dewch i’r parti Dolig i glywed am wins, downars (dim lot, addo!) a gobeithion Iest, Bryn a Sions am y flwyddyn dwetha, a’r flwyddyn i ddod. 🎅 Ac OBVS byddwn ni’n trafod twrdyn ffresh o ffilm - Father Christmas is Back - a gan fydd economi Cymru yn rhedeg ar OnlyFans a Netflix Christmas Movies o hyn mlaen, cymwch notes! ⭐️ Hoffai tîm yr Haclediad hefyd anfon ein cariad i bawb sydd wedi colli rhai annwyl, neu yn dioddef dros yr ŵyl, dydy Dolig ddim wastad yn adeg hapus - plis ewch i meddwl.org (http://meddwl.org) am gyngor ac adnoddau i’ch helpu i ddod trwyddi elenni.

Duration:02:52:30

Bataverse

11/23/2021
🔥Cwtshwch yn agos i’r firepit rhithiol a neidiwch mewn i metaverse yr Haclediad am bennod newydd sbon gaeafol🔥 Y mis yma bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn sibrwd y newyddion tech, gemau a diwylliant diweddaraf i’ch clustiau - yn ogystal â gwylio ffilm ARALL o 1997: Batman & Robin, bet bo chi methu aros am honna. A fydd B&R yn “Valerian Level”? Gwrandewch i ffindio allan… 🎉 Diolch enfawr i bawb sy’n lawrlwytho, ond yn arbennig i Matthew Madison am y Ko-Fi sydd wedi talu am y ‘hosting’ mis yma. ko-fi.com/haclediad (http://ko-fi.com/haclediad) 🎉

Duration:02:29:49

Bondigrybwyll

10/28/2021
Bron i 3 awr o gadgets, sgwrsio suave a gwisgoedd arbennig... Bond film newydd neu Haclediad #103? Pam ddim yn ddau?! Yup, mae’ch hoff cusping Milennials chi nôl efo newyddion yr N64 y dod i Switch, y Facebook Files a #FfilmdiDdim arall o’r 90au - y clasur am hawliau darlledu - Tomorrow Never Dies Diolch am danysgrifio - cofiwch bod hi’n beryg i wrando ar yr Haclediad mewn un go, defnyddiwch y chapter markers gwych gan Iest #podresponsibly

Duration:03:25:47