Pod Jomec Cymraeg/Y Darlledwyr-logo

Pod Jomec Cymraeg/Y Darlledwyr

Arts & Culture Podcasts

Dyma bodlediad i chi fydd yn datgelu popeth chi erioed wedi ishe gwybod am rai o ddarlledwyr/newyddiadurwyr gorau Cymru.

Location:

United States

Description:

Dyma bodlediad i chi fydd yn datgelu popeth chi erioed wedi ishe gwybod am rai o ddarlledwyr/newyddiadurwyr gorau Cymru.

Language:

Welsh


Episodes
Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 50- Dylan Griffiths

4/8/2024
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Owain Davies o flwyddyn 3, yn cyfweld a'r sylwebydd pêl-droed Dylan Griffiths.

Duration:00:19:03

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 49- ReniDrag

4/2/2024
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Poppy Goggin Jones o flwyddyn 1, yn cyfweld a'r You Tuber ReniDrag neu Tomas Gardiner! Erbyn hyn mae gan ReniDrag dros hanner filiwn o danysgrifwyr ar You Tube, ac fe yw un o You Tubers mwyaf llwyddiannus Cymru.

Duration:00:17:32

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 48- Aled Biston

3/27/2024
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Hanna Morgans Bowen o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld ag Aled Biston. Mae Aled yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i newyddion S4C.

Duration:00:17:36

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 47- Melanie Owen

2/20/2024
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion. Yn y bennod yma, mae Lena Mohammed, sydd yn ei blwyddyn olaf, yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Melanie Owen. Mae Melanie yn cyflwyno pods, yn gwneud 'stand-up' ac yn ysgrifennu colofnau. Dyma'i stori hi!

Duration:00:40:08

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 46- Beth Williams

2/14/2024
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion. Yn y bennod yma, mae Lois Jones o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Beth Williams, cyn- fyfyriwr yma yn JOMEC Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio gyda BBC Cymru. Mwynhewch.

Duration:00:27:31

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 45- Catrin Lewis

12/11/2023
Yn y bennod yma, mae Efa Ceiri o’r drydedd flwyddyn yn sgyrsio gyda Catrin Lewis, cyn- fyfyriwr yma yn JOMEC Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio gyda Golwg 360. Mwynhewch!

Duration:00:13:21

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 44- Dafydd Wyn Orritt

12/9/2023
Yn y bennod yma, mae Carys Williams – sydd yn astudio cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd – yn cyfweld a Dafydd Wyn Orritt sydd yn swyddog gweithredol cyfrif yn Equinox Communications. Mae gan Carys uchelgais i weithio yn y diwydiant PR, ac felly, dyma hi’n holi Dafydd am ei brofiad prifysgol, ei yrfa hyd yn hyn, a’i farn am y diwydiant cyfathrebu.

Duration:00:20:48

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 43- Tirion Davies

12/6/2023
Eleni mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion. Yn y bennod yma mae Millie Stacey o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Tirion Davies. Fe wnaeth Tirion graddio o JOMEC ar ôl astudio Cymraeg a newyddiaduraeth fel myfyriwr israddedig, cyn gwneud y cwrs MA darlledu, eto yn JOMEC. Mae Tirion nawr yn gweithio fel newyddiadurwraig radio i Global News.

Duration:00:22:47

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg Eisteddfod yr Urdd 2023- Hansh x JOMEC

6/8/2023
Rhifyn arbennig yw hwn am ddyfodol newyddiaduraeth ddigidol yng Nghymru. Cafodd y pod ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri, 2023. Mae Lois Campbell o flwyddyn 3 yn sgwrsio gyda Ciara Conlon a Jess Clayton o dîm cynhyrchu Hamsh Dim Sbin/ITV Cymru.

Duration:00:18:49

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 42- Illtud Dafydd

4/3/2023
Yn y rhifyn yma mae Jack Thomas o’r flwyddyn gyntaf yn siarad gydag Illtud Dafydd, newyddiadurwr ifanc a raddiwyd o JOMEC, sydd erbyn hyn yn gweithio yn y byd chwaraeon i gwmni AFP ym Mharis, Ffrainc. Mae’r ddau’n sgwrsio am bencampwriaeth y Chwe gwlad a fu Illtud yn gweithio arno, Newyddiaduriaeth yn Ffrainc, a’r cyfleoedd mae Illtud wedi cael wrth iddo weithio ar rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwya’r byd. Mwynhewch!

Duration:00:28:25

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 42- Bethan Sayed

3/7/2023
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ŵyl fyd-eang sy’n bwysig i’r mudiad hawliau menywod, Mae’n dod a sylw i bynciau fel cydraddoldeb rhyw, hawliau atgenhedlu, thrais a cham-drin yn erbyn menywod. Yn y bennod yma mae Megan Taylor a Gracie Richards yn sgwrsio gyda’r cyn-wleidydd Bethan Sayed.

Duration:00:23:58

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 41- Jess Davies

3/7/2023
Mae Diwrnod rhyngwladol y Merched yn ŵyl fyd-eang, sy’n bwysig i’r mudiad hawliau menywod, ac yn dod a sylw i bynciau fel cydraddoldeb rhyw, hawliau atgenhedlu, a thrais a cham-drin yn erbyn menywod. Yn y bennod yma mae Gracie Richards a Megan Taylor yn sgwrsio gyda Jess Davies- cyflwynwraig, ymgyrchydd a chyn-fodel.

Duration:00:23:20

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 40- Indigo Jones

11/22/2022
Yn y bennod yma, ma Millie Stacey o'r ail flwyddyn yn siarad gydag Indigo Jones, cyn-fyfyriwr JOMEC a nawr yn gweithio i ITV Cymru. Mae’r ddwy yn trafod Cymru, ein hiaith, ein newyddion , y cyfryngau cymdeithasol a chyngor i fyfyrwyr heddiw. Mae’n werth gwrando ar un yma!

Duration:00:19:44

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 39- Delyth Lloyd

11/10/2022
Yn y bennod hon, Beca Dalis o'r ail flwyddyn sydd yn siarad gyda gohebydd chwaraeon BBC Chwaraeon a Radio 5 Live, Delyth Lloyd. Mae'r ddwy yn trafod dechrau gyrfa Delyth yn Aberystwyth, ei phrofiadau cyntaf yn y diwydiant, a Chymru yn Qatar!

Duration:00:27:16

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg 38- Nic Parry

10/31/2022
Yn y bennod hon, Ben Peris o'r drydedd flwyddyn sydd yn siarad gyda sylwebydd Sgorio Nic Parry, cyn-gyfreithiwr, barnwr ac un o leisiau mwyaf poblogaidd ym myd darlledu Cymru. Mae'r ddau yn trafod cwpan y byd, datblygiadau yn y byd sylwebu ac yn dadlau am y gêm ddarbi fwyaf yng Nghymru!

Duration:00:29:56

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg- Rhifyn Torri Ffiniau Eisteddfod 2022

8/1/2022
Dyma bennod arbennig o Pod Jomec Cymraeg sy'n rhan o bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd. Cyfle yw hwn i archwilio hunaniaeth drwy lygad cerddorion post-punk yn Aotearoa a hefyd yma yng Nghymru. Fel rhan o webinar gafodd ei recordio yn hwyr y nos, mae Wairehu Grant, o Halftime, a'r darlithydd Gareth Schott yn Seland Newydd yn trafod effaith iaith, hunaniaeth, diwylliant, protestio, celf a bywyd ar gerddoriaeth ym mhen draw'r byd, a Rhys Mwyn yn hel atgofion am ei gyfnod yn Anrhefn tra'n cymharu ei brofiad e a'r gantores ym mand Chroma, Katie Hall. Dyma drafodaeth onest am effaith colli iaith, yr euogrwydd, yr ail-gydio mewn diwylliant, a'r dathliadau o drawsffurfiad cerddorol dau sin ar yr ymylon. ***RHYBUDD: IAITH GREF MEWN MANNAU***

Duration:01:09:24

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg- Eisteddfod 2022: Dom a Lloyd

7/31/2022
Ar ol gwefreiddio Gwyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae disgwyl i "Pwy Sy'n Galw?" atseinio ar Faes B yn Nhregaron yr wythnos hon. Yn y bennod arbennig hon o Pod Jomec Cymraeg, mae Dom James a Lloyd Lewis yn siarad a Gwion Ifan o griw Llais y Maes am bopeth o'u cariad at greu cerddoriaeth gyda Don eu cynhyrchydd, eu breuddwyd i greu rhagor o ganeuon a fideos o safon, a pham eu bod nhw'n benderfynol o weddnewid delwedd yr iaith Gymraeg.

Duration:00:18:40

Ask host to enable sharing for playback control

Pod Jomec Cymraeg- Rhifyn Eisteddfod Yr Urdd 2022- Dyfodol Digidol

6/13/2022
Rhifyn arbennig yw hwn am ddyfodol newyddiaduraeth digidol. Cafodd y pod ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod yr Urdd o flaen cynulleidfa o eisteddfotwyr brwd. Temi Smith newyddiadurwraig @hanshdimsbin sy'n arloesi o safbwynt newyddiaduraeth Gymraeg ar Tiktok, a Tomos Gruffydd Evans, un o raddedigion JOMEC sy bellach yn gwneud ei farc yng ngwasanaeth newyddion digidol @newyddions4c sy'n siarad a un o ddarlithwyr yr adran, Gwenfair Griffith.

Duration:00:42:01

Ask host to enable sharing for playback control

Y Darlledwyr - 10 - Angharad Mair

6/9/2022
Brenhines y soffa - Angharad Mair - yw'r gwestai yn y bennod yma. Un o gyflwynwyr a golygydd Heno, ac yn un o benaethiaid cwmni teledu Tinopolis, mae hi'n trafod ei gyrfa lwyddiannus gyda Lois Campbell o'r ail flwyddyn. Nid y byd darlledu yn unig sy'n cael sylw, ond sut y gallai taclo problem tai haf Cymru helpu sicrhau dyfodol yr iaith a faint yn fwy sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Duration:00:31:08

Ask host to enable sharing for playback control

Y Darlledwyr 9 - Caryl Parry Jones

5/26/2022
Dyma ddarlledwraig nid yn unig briliant, ond briliant piliant! Mae Caryl Parry Jones wedi gwneud popeth o sgwennu rhai o ganeuon mwyaf iconic Cymru erioed, i fod mewn supergroups a dramau gorau S4C (Os nad y'ch chi wedi gweld Ibiza Ibiza, Steddfod Steddfod a Y Dyn nath Ddwyn y Dolig - get on it!). Mae hi nawr yn cyflwyno Sioe Frecwast BBC Radio Cymru 2, ac yn fyd-wraig gerddorol i gymaint o deuluoedd drwy 'Can y Babis.' Yn y bennod yma, y gantores Gracie Richards o'r ail-flwyddyn yma yn Jomec sy'n cymharu nodiadau gyda hi am y byd cerddorol - a phopeth arall. Draw atot ti Gracie!

Duration:00:28:08