Dewr-logo

Dewr

BBC

Yn 2020 fe gychwynnodd Tara Bethan ar daith i ddysgu am sut mae’r creadigrwydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau mewn cyfnodau heriol a hapus. Yn ei chartref newydd ar BBC Sounds mae’r sgyrsiau yn parhau, a chawn gyfarfod mwy o wynebau cyfarwydd Cymru i glywed am y pethau sy’n eu cynnal nhw. Ar hyd y ffordd cawn glywed am brofiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles yn cael eu trafod mewn ffordd agored a gonest. Mae’r podlediad yma’n cynnwys iaith gref.

Location:

United Kingdom

Networks:

BBC

Description:

Yn 2020 fe gychwynnodd Tara Bethan ar daith i ddysgu am sut mae’r creadigrwydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau mewn cyfnodau heriol a hapus. Yn ei chartref newydd ar BBC Sounds mae’r sgyrsiau yn parhau, a chawn gyfarfod mwy o wynebau cyfarwydd Cymru i glywed am y pethau sy’n eu cynnal nhw. Ar hyd y ffordd cawn glywed am brofiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles yn cael eu trafod mewn ffordd agored a gonest. Mae’r podlediad yma’n cynnwys iaith gref.

Language:

English


Episodes
Ask host to enable sharing for playback control

Elis James

1/22/2022
Y comedïwr Elis James sy’n trafod bywyd stand-up, ei bodlediad iechyd meddwl a’i fywyd newydd yn llenwi theatrau ar daith gyda’r Socially Distant Sports Bar.

Duration:01:01:29

Ask host to enable sharing for playback control

Beti George

1/16/2022
Yn y bennod mae Tara yn cael cyfle i sgwrsio gyda’r ddarlledwraig Beti George, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei gyrfa. Mae Beti yn fwy cyfarwydd â holi’r cwestiynau, ond y tro yma hi sy'n eu hateb gan drafod cyfnodau hapus a heriol ei bywyd a gyrfa.

Duration:00:55:32

Ask host to enable sharing for playback control

Carys Eleri

1/8/2022
Pwysigrwydd perthynas gyda ffrindiau, galar a gweld goleuni trwy’r tywyllwch. Yn y rhifyn yma mae Tara yn cael sgwrs gyda’r awdur a pherfformiwr ffabiwlys Carys Eleri yn y twba twym!

Duration:00:56:25

Ask host to enable sharing for playback control

Seren Jones

1/2/2022
Mae Seren Jones yn gyflwynydd a chynhyrchydd podlediadau sy’n byw yn Llundain. Yn y sgwrs yma mae hi’n rhannu ei phrofiadau fel newyddiadurwraig a’n trafod cyfnodau hapus ac anodd ei bywyd a gyrfa. Roedd 2020 yn flwyddyn arbennig o heriol i Seren fel newyddiadurwraig, ac mae hi’n sôn am y ffordd gwnaeth ei phrofiad fel cyn-nofwraig broffesiynol ei helpu yn ystod y flwyddyn. Cawn glywed hefyd am ei gwaith yn sefydlu’r Black Swimming Association, a gobeithion Seren ar gyfer y dyfodol.

Duration:00:55:06

Ask host to enable sharing for playback control

Erin Richards

12/19/2021
Hyder corff, rhewi wyau a rhyw… sgwrs ffraeth ac agored gyda’r actor a chyfarwyddwr adnabyddus. Yn wreiddiol o Benarth fe ddaeth Erin Richards yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru fel cyflwynydd teledu. Yna fe ddaeth hi'n enwog ar draws y byd am chwarae rhan Babs yn y gyfres Gotham, ac mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Mae’r bennod yma’n cynnwys iaith gref.

Duration:00:55:52

Ask host to enable sharing for playback control

Daf James

12/12/2021
Dramodydd a cherddor ydi Daf James, ac yn ystod ei yrfa mae wedi bod yn gyfrifol am rai o gynyrchiadau theatrig mwyaf mentrus y Gymraeg. Mewn sgwrs gynnes gyda Tara mae’n rhannu straeon am ei waith a’i fywyd personol, gan gynnwys hanes ei briodas ddiweddar, ei brofiadau wrth fabwysiadu, delio gydag adolygiadau negyddol, ac effeithiau hir dymor ‘gay-shame’. Mae'r bennod yma'n cynnwys rhegfeydd.

Duration:01:14:27

Ask host to enable sharing for playback control

Ffion Dafis

12/5/2021
Actor, cyfarwyddwr a chyflwynydd yw Ffion Dafis, ac mae hi'n rhannu ei amser rhwng y ddinas a llonyddwch Meirionydd. Mewn sgwrs agored a chynnes mae hi'n trafod y ffordd mae hi'n ymdopi gyda heriau mawr a bach bywyd. Mae hi'n rhoi ei barn am brinder ymwybyddiaeth sydd gan gymdeithas am heriau'r menopos ac yn sôn wrth Tara am ei pherthynas gymhleth gydag alcohol. Cawn hefyd glywed am ei anturiaethau yn teithio, gan gynnwys yr adeg pan y gwnaeth hi ddigwydd cyfarfod Tara ar fynydd yn Nepal!

Duration:01:05:07

Ask host to enable sharing for playback control

Yws Gwynedd

11/25/2021
Garddio a galar. Yws Gwynedd ydi gwestai cyntaf Dewr ar BBC Sounds. I gyfeiliant sŵn diwrnod glawog, fe gafodd sgwrs gynnes gyda Tara wrth y bar mae wedi ei adeiladu yng ngardd y teulu. Mae Yws yn cyflwyno Tara i’w angerdd annisgwyl tuag at arddio, a’n trafod y ffordd mae tyfu planhigion yn ei helpu i wneud synnwyr o’r byd. Am y tro cyntaf, mae Yws yn trafod y cyfnodau trist a heriol mae wedi ei wynebu. Ag yntau’n gyfrifol am gyfoeth o ganeuon anthemig sy’n dod â miloedd o bobl at ei gilydd yn ei gigs, mae Yws hefyd wedi profi sawl profedigaeth fawr ar hyd y blynyddoedd. Mewn sgwrs agored a hwyliog, cawn glywed sut mae teulu, ffrindiau a'r byd natur wedi cynnal Yws drwy gyfnodau heriol. Mae’r bennod yma’n cynnwys iaith gref.

Duration:01:03:36

Ask host to enable sharing for playback control

Croeso i Dewr

11/12/2021
Yn 2020 fe gychwynnodd Tara Bethan ar daith i ddysgu am sut mae creadigrwydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau mewn cyfnodau heriol a hapus. Yn ei chartref newydd ar BBC Sounds mae’r sgyrsiau yn parhau, a chawn gyfarfod mwy o wynebau cyfarwydd Cymru i glywed am y pethau sy’n eu cynnal nhw. Ar hyd y ffordd cawn glywed am brofiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles yn cael eu trafod mewn ffordd agored a gonest. Mae’r podlediad yma’n cynnwys iaith gref.

Duration:00:00:46