Pigion: Highlights for Welsh Learners-logo

Pigion: Highlights for Welsh Learners

BBC

DANIEL GLYN A SIAN HARRIES Galaru​​​​​​​ - To grieve Yn gyhoeddus​​​​​​ - Public Cwympo mewn cariad​​​​​ - To fall in love Diog​​​​​​​ - Lazy Cefndir - ​​​​​​​Background Doniol​​​​​​​ - Funny Ymddiheuro - ​​​​​​To apologise Ymchwil​​​​​​ - Research Ymdrech - ​​​​​​Effort ALED HUGHES A SERAN DOLMA Amgylchedd​​​​​ - Environment Datblygu cynaladwy​​​​ - Sustainable development Cadwraeth​​​​​ - Conservation Creadigol - ​​​​​Creative Arbrofi​​​​​​ - To experiment Goroesi​​​​​​ - To survive Hinsawdd​​​​​ - Climate Dirywio​​​​​​ - To deteriorate Hunan-gynhaliol​​​​ - Self-sufficient Wedi ei chyhoeddi​​​​ - Published Gweledol​​​​​ - Visual DYLAN JONES A CHLOE CONDY Uwch Gynghrair​​​​​​ - Premier League Dyrchafiad - ​​​​​​Promotion Safon​​​​​​​ - Quality Hyfforddwr​​​ - ​​​Coach Rhywsut​​​​​​ - Somehow Ymddygiad​​​​​​ - Behaviour Agwedd​​​​​​ - Attitude Gweld eisiau​​​​​​ - Seeing the need for GERALLT PENNANT A GARETH VAUGHAN WILLIAMS Clawr​​​​​​​​ - Cover Cyfrifon - ​​​​​​​​Accounts Darganfod​​​​​​​ - To discover Trysorydd​​​​​​​ - Treasurer Swyddogol​​​​​​​ - Official Cofnodi​​​​​​​​ - To record Yn weddol gyson​​​​​​ - Fairly regularly ALEX HUMPHREYS AC ARON JONES Gyrfa - ​​​​​​​​Career Safle - P​​​​​otition GERAINT LLOYD AC ALAW OWEN Elusen​​​​​​​ - Charity Sefydlu - ​​​​​​​To establish Cryfhau - ​​​​​​​To strengthen Bodolaeth - ​​​​​​Existence Gwirfoddoli​​​​​​ - To volunteer Angerddol - ​​​​​​Passionate Da byw​​​​​​​ - Livestock Deunyddiau hyrwyddo​​​​​ - Promotion materials Amcanion - ​​​​​​Aims Dioddef​​​​​​​ - To suffer

Location:

United Kingdom

Networks:

BBC

Description:

DANIEL GLYN A SIAN HARRIES Galaru​​​​​​​ - To grieve Yn gyhoeddus​​​​​​ - Public Cwympo mewn cariad​​​​​ - To fall in love Diog​​​​​​​ - Lazy Cefndir - ​​​​​​​Background Doniol​​​​​​​ - Funny Ymddiheuro - ​​​​​​To apologise Ymchwil​​​​​​ - Research Ymdrech - ​​​​​​Effort ALED HUGHES A SERAN DOLMA Amgylchedd​​​​​ - Environment Datblygu cynaladwy​​​​ - Sustainable development Cadwraeth​​​​​ - Conservation Creadigol - ​​​​​Creative Arbrofi​​​​​​ - To experiment Goroesi​​​​​​ - To survive Hinsawdd​​​​​ - Climate Dirywio​​​​​​ - To deteriorate Hunan-gynhaliol​​​​ - Self-sufficient Wedi ei chyhoeddi​​​​ - Published Gweledol​​​​​ - Visual DYLAN JONES A CHLOE CONDY Uwch Gynghrair​​​​​​ - Premier League Dyrchafiad - ​​​​​​Promotion Safon​​​​​​​ - Quality Hyfforddwr​​​ - ​​​Coach Rhywsut​​​​​​ - Somehow Ymddygiad​​​​​​ - Behaviour Agwedd​​​​​​ - Attitude Gweld eisiau​​​​​​ - Seeing the need for GERALLT PENNANT A GARETH VAUGHAN WILLIAMS Clawr​​​​​​​​ - Cover Cyfrifon - ​​​​​​​​Accounts Darganfod​​​​​​​ - To discover Trysorydd​​​​​​​ - Treasurer Swyddogol​​​​​​​ - Official Cofnodi​​​​​​​​ - To record Yn weddol gyson​​​​​​ - Fairly regularly ALEX HUMPHREYS AC ARON JONES Gyrfa - ​​​​​​​​Career Safle - P​​​​​otition GERAINT LLOYD AC ALAW OWEN Elusen​​​​​​​ - Charity Sefydlu - ​​​​​​​To establish Cryfhau - ​​​​​​​To strengthen Bodolaeth - ​​​​​​Existence Gwirfoddoli​​​​​​ - To volunteer Angerddol - ​​​​​​Passionate Da byw​​​​​​​ - Livestock Deunyddiau hyrwyddo​​​​​ - Promotion materials Amcanion - ​​​​​​Aims Dioddef​​​​​​​ - To suffer

Language:

Welsh


Episodes
Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

4/30/2024
Ar Blât – Elinor Snowsill Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…? Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad Always Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for granted Bore Cothi – Menna Williams Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honour Beti a’i Phobol – Shelley Rees A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw Mai Aled Hughes – Singapore Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol. Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol Competitive Dros Ginio – Llyfrau Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly

Duration:00:18:18

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

4/23/2024
1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49. Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn: Yn ddiweddar Recently Llongyfarchiadau Congratulations 2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28. Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan? Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama. Trawiadol Striking Difrifol Serious Cyfoes Modern Cyfredol Contemporary Y felltith The curse Dychmygol Imaginary Trigolion cynhenid Indigenous residents Estroniaid cefnog Rich outsiders Rhwystro To prevent (G)oblygiadau Consequences Gostwng yn ddifrifo Fallen sharply 3 Beti a’i Phobol – Hyd 2.51. Dafydd Emyr yn fanna’n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug. Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei henw ‘Cadwaladr’. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni. Hel achau To genealogize Y Brythoniaid The Britons Canfod To find Plwyf Parish Ymwybodol Aware Rhyfedd Strange Dirprwy swyddog Deputy officer Awyrlu Airforce Be dach chi’n dda? What are you doing? Alla i ddychmygu can imagine 4 Aled Hughes – Hyd 2.00 Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai’n meddwl! Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae’r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o’r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy’n trefnu’r daith feics ar ran Antur Waunfawr. Dathliad Celebration Unigolion Individuals Trwsio To repair 5 Bore Cothi – Hyd 2.26. A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy’n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd. Antur arall sy’n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae’r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd. Gwerth chweil Worthwhile Dychmygu To imagine Galwad A call Arwr Hero Mor ddiolchgar So thankful Llewyrchus Prosperous Yn hanfodol Essential Craidd Core Ehangu To expand Cynhyrchu To produce Go sylweddol Quite substantial Os na watsia i If I don’t look out 6 Dros Ginio – Hyd 2.30. Pob lwc i’r Antur efo’r fenter newydd, dw i’n siŵr bydd hi’n llwyddiant mawr. Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni’r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd: Cyflwr Condition Dw i yn cyfadde I admit Blewyn A hair Straen Stress Yn raddol Gradually Yn ei gylch e About it Ymddangos To appear Ansawdd Texture Menywod Merched Brau Brittle

Duration:00:17:45

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 16eg 2024

4/16/2024
Pigion y Dysgwyr – Francesca Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon! Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil... (Y)stumiau Gestures Ymchwil Research Ystrydebol Cliched Ymwybodol Aware Sylwi To notice Hunaniaeth Identity Am wn i I suppose Mynegi To express Lleisiau Voices Barn An opinion Pigion y Dysgwyr – Llyfrau Hanes Bron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed? Llonydd Still Diflas Boring Milwrol Military Agweddau Aspects Yn ddiweddar Recently Pori To browse Taro To strike Cymhleth Complicated Rhaid i mi gyfadde(f) I must admit Ysgolheictod Scholarship Astrus Obscure Pigion y Dysgwyr – Beti a Huw Dr Mari William oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy’n ddiflas iddi hi. Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i’w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau’n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi’r ddau. Moethus Luxurious Cyflwynydd Presenter Darganfod To discover Anhygoel Incredible Pigion y Dysgwyr – Gwyl Ban Geltaidd Wel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on’d ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel! Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti’. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi’n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth... Rhyngwladol International Suddo To sink Alla i ddychmygu I can imagine Profiadau Experiences Canlyniad Result Pigion y Dysgwyr – Jonathan Rio A llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on’d ife! Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas. Dyma fe’n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio... Buddugoliaeth Win Cyfieithydd Translator Peryglus Dangerous Ffon Stick Pigion y Dysgwyr – RNLI Mae’n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e? Mae’r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â’r RNLI.. Dau ganmlwyddiant Bicentenary Bad achub Lifeboat Ymuno â To join Rhiant Parent Mewn cysylltiad â In contract with Hyfforddiant Training

Duration:00:16:18

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 9fed 2024

4/9/2024
Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224 Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel War Atgofion Memories Mynyddog Mountainous Anferth Huge Bobol annwyl Goodness me Llong Ship Grawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424 Rosalie Lamburn oedd honna’n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi’n chwech oed. Dych chi’n un o ‘r rhai sy’n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu’r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae’n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on’d yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o’i gwyliau iddi hi... Traddodiad Tradition Celf Art Llawn bwrlwm Buzzing Cynnyrch lleol Local produce Pwytho â llaw Handstitched Pren Wood Cysylltiad Connection Atyniad Attraction Pigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh Dros Ginio 02.04.24 Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw’r holl fagnetau na? Mae’r awdures Clare Mackintosh, sy’n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni’n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i’r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar… Ffuglen a throsedd Fiction and crime Diweddara Most recent Galar Grief Dynes Menyw Cennin Pedr Daffodils Amser maith yn ôl A long time ago Yn union Exactly Pigion y Dysgwyr – Cerys Hafana Beti a’i Phobol 070404 A dw i’n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos. Tair perfformwraig sydd i’w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda’r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a’i Phobol ddydd Sul, Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi’n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu’r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi’n sôn am hanes ei theulu…. Cysur Comfort Telynores Harpist Arddull Style Chwarelwyr Quarrymen Dychwelyd To return Cwympo To fall Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies Bore Cothi 020404 Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a’r haf – cerwch i’w gweld os cewch chi gyfle, mae’n delynores arbennig iawn. Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy’n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn... Hamddenol Leisurely Profiad Experience Llwyfannau Stages Nefoedd annwyl Good Heavens Pigion y Dysgwyr – Connie Orff Caryl 030204 Wel pob lwc i’r Golden Oldies on’d ife? Mae’n swnio’n brosiect diddorol a hwyliog iawn. Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy’n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau Influences Uniaethu fel To identify as Ffraeth Witty Israddol Inferior Caniatáu To permit

Duration:00:15:36

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 2il 2024

4/2/2024
Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy’n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produce Ar y cyd Together Hybu To promote Maeth Nutrition Troellwr Spinner Atgofion Memories Agwedd Aspect Lles Welfare Manteisio ar To take advantage of Addas Suitable Pigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on’d ife? Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop Y Parchedicaf The Most Reverand Atgof memory Pam lai? Why not? Olrhain To trace Pigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ’r Archesgob yn fanna ar Beti a’i Phobol. Ond sôn am ddathliadau’r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi’n sôn am draddodiadau’r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma’r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia’n dathlu… Traddodiadau Traditions Gweinidog Minister Amrywio To vary Y Grawys Lent Ymprydio To fast Dipyn o her Quite a challenge Gwylnos A vigil Y wawr Dawn Mae’n ymddangos i mi It appears to me Pigion y Dysgwyr – Twin Town Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna’n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a’i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau’r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a’r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm…… Prif gymeriadau Main characters Cyffiniau Vicinity Ymchwil manwl iawn Very detailed research Ymwybodol Aware Awyddus iawn Very keen Cyfweliad Interview Fatha Fel Plentyndod Childhood Profiad Experience Pigion y Dysgwyr – Piano Ac os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i’n siŵr basech chi’n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi. Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu’r hyn neu’r llall on’d oes yna? Ond oeddech chi’n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i’w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi’r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae’r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi… Offeryn Instrument Cyflawni To achieve Anwybyddu To ignore Cymryd yn ganiataol Taking for granted Cerddorfa Orchestra Cyfeilyddion Accompanists Hyblyg Flexible Y deunawfed ganrif 18th century Esblygu To evolve Pigion y Dysgwyr – Isabella Ac mae perfformio yn ganolog i’r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.… Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir. Yr Wyddgrug Mold Llwyfan Stage O ddifri(f) Seriously Tanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam Argraff enfawr A huge impression Diwylliant Culture Ailgysylltu To reconnect Parch Respect

Duration:00:13:57

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr y 26ain o Fawrth 2024

3/26/2024
Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr Saddler Cymwysterau Qualifications Ffodus Lwcus Creadigol Creative Ail-greu To recreate Lledr Leather Cyfrwy Saddle Ar waith In the pipeline Amrywiaeth Variety Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o’r ffilmiau mwya enwog, on’d yw hi? Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma’r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public Health Cydweithiwr Co-worker Sylwi To notice Heb os nac oni bai Without doubt Brwdfrydedd Enthusiasm Y cyfnod clo The lockdown Degawd Decade Ymdrech Effort Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn Mike Olson oedd hwnna’n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae’r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma’r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni’n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta Ymgyrch Campaign Ymwybodol Aware Goleuni Light Glynu To stick Galluogi To enable Heulwen liw nos Evening sun Ennyn cefnogaeth To elicit support Mesur A Bill Deddf Statute Cynhyrchu arfau Arms manufacturing Ar fyrder In haste Pigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts Cofiwch droi’r clociau yna ymlaen cyn mynd i’r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi’n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on’d oedd hi? Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House’ sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100’.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon? San Steffan Westminster Braint Privilege Cydnabod Acknowledge Dylanwadu To influence Yn eu plith nhw Amongst them Pleidiau gwleidyddol Political parties Awch Eagerness Ysgogiad Motivation Rhagflaenydd Predecessor Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e’n dod o Sir Benfro a dyma fe’n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds. Cyfrifol am Responsible for Lles Welfare Trwyddedau Licenses Yn feunyddiol Daily Carcharor Prisoner Gwendidau Weaknesses Lleithio Becoming damp Pallu Methu Bygwth gwae Threatening Llyw Steering wheel Pigion y Dysgwyr – Caryl Wel dyna stori ddoniol, a dw i’n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre. Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio Ysbrydoliaeth Inspiration Denu dy sylw di Drew your attention Pice ar y maen Welsh cakes Cas-gwent Chepstow Cynhwysion Ingredients Llwyfannau cymdeithasol Social media Ryseitiau pobi Baking recipes Cacen glou A quick cake

Duration:00:17:05

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024

3/19/2024
DROS GINIO 11.03.24 Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg? Ympryd A fast Cymuned Community Nodi To mark Crefyddol Religous Datgelu To reveal Hunanddisgyblaeth Self discipline Llai ffodus Less fortunate Ansicrwydd Uncertainty Heriol Challenging Adlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24 Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai’n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i’r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy’n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno. Cynhyrchu To produce Gwinllan Vinyard Her A challenge Grawnwin Grapes Llethr Slope Gwerthfawrogi To appreciate Addas Appropriate Sefydlu To establish Micro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munud Gwinwydd Vines Arallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24 Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on’d oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd! Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e’n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe’n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg... Rhydychen Oxford Gwlad y Basg The Basque Country Offeryn Instrument Gwneuthurion Manufacturers Preniach Small pieces of wood Pastynau Clubs Gwledda To feast Wedi swyno Charmed Ymatebol Responsive Llanast Mess Rhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24 Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a’r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta... Rhufain Rome Cwrs Preswyl Residential course Ymarfer To practice DROS FRECWAST 14.03.23 Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai’n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad. Rhestr fer Short list Penderfyniad enfawr Huge decision Cyflawni To achieve Y cyhoedd The public Uchafbwynt Highlight BETI A’I PHOBOL 17.03.24 George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny! Trueni Bechod Sylw a stwr Fuss and attention Cefn gwlad The countryside Enwoca The most famous Bodoli To exist

Duration:00:15:56

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 12fed o Fawrth 2024

3/12/2024
BORE COTHI 04.03.24 Gredwch chi fod 50 mlynedd ers i Abba ennill yr Eurovision gyda’u cân Waterloo? Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes a buodd hi’n holi’r arbenigwr pop, Phil Davies, am lwyddiant Abba. Llwyddiant Success Sbort a sbri Fun Ysgariad Divorce Dwfn Deep Cyfnod Period DROS GINIO 04.03.24 Ie, mae caneuon Abba dal yn boblogaidd on’dyn nhw? Mae’n pedwardeg o flynyddoedd ers Streic y Glowyr a buodd Rhodri Llywelyn yn holi Amanda Powell, sydd ar fin cyhoeddi llyfr ar y streic. Roedd Amanda yn ei chanol hi fel gohebydd dan hyfforddiant yn ystod y streic yn 84 ac 85. Glowyr Miners Ar fin cyhoeddi About to publish Gohebydd dan hyfforddiant Trainee journalist Ymhlith Amongst Cymunedau Communities Agweddau Attitudes Cyfryngau cymdeithasol Social media RHYS MWYN 04.03.24 Amanda Powell yn fanna yn cofio Streic y Glowyr. Mae’r band Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau eu chweched albwm sef ‘Mynd â’r tŷ am dro’ ac ar raglen Rhys Mwyn buodd Iwan ac Aled o’r band yn egluro pa mor hapus oedden nhw gyda un o'r traciau sef ‘Adenydd’, ac yn sôn am sut cafodd y geiriau eu hysgrifennu. Hon ydy cân orau Cowbois erioed tybed? Adenydd Wings Rhyddhau To release Annisgwyl Unexpected Trefniant Arrangement Saernïo To refine Syth bin Straight away Canu gwlad Country & Western Isdeitlau Subtitles Mynegi To convey Chwysu Sweating BORE COTHI 07.03.24 Wel mae Rhys Mwyn wir yn dwlu ar gân newydd Cowbois on’d yw e? Y tenor o Hen Golwyn, Ryan Vaughan Davies gafodd sgwrs efo Shan Cothi fore Iau. Mae Ryan yn canu ar hyn o bryd gyda’r Tŷ Opera yn Llundain ac yn brysur iawn fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma... Dwlu ar Hoff iawn o Llwyfan Stage Perthynas Relationship FFION EMYR 08.03.24 Ychydig o hanes y tenor o Hen Golwyn, Ryan Vaughan Davies yn fanna ar Bore Cothi. Mae Maria Owen-Roberts o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn cynnig gwasanaeth Trefnu a Thacluso Proffesiynol. Mae’n rhedeg busnes o’r enw ‘Twt’ ers tair mlynedd - Twt sef trefn wedi’r tacluso. Roedd Maria’n sôn am sut i gael trefn ar y tŷ, ar raglen Ffion Emyr nos Wener. Crediniol To firmly believe Yn gyson Consistently Eitha rheolaidd Fairly regularly Tasg anferthol A huge task Call iawn Very wise Fesul dipyn Little by little Llnau Glanhau Meddylfryd Mindset Argymell To recommend Egni corfforol Physical energy Tarfu ar To disturb BETI A’I PHOBOL 10.03.24 On’d yw glanhau’r Gwanwyn yn swnio’n waith caled? Pob lwc i bob un ohonoch chi sydd am fynd ati! Dafydd Wigley - yr Arglwydd Wigley - oedd gwestai Beti George ddydd Sul. Mae hi’n 50 mlynedd ers iddo fe gael ei ethol i San Steffan. Buodd e’n cynrychioli Arfon yno am 27 mlynedd. Roedd perthynas enwog gyda fe o Ogledd America, ond dw i ddim yn siŵr pa mor falch yw Dafydd o’r cysylltiad hwn... Cael ei ethol Was elected Cynrychioli To represent Dau ganmlwyddiant Bicentenary Bodolaeth Existence Gyrfa wleidyddol Political career Tyrru mewn To flock in Uniongyrchol Directly Deddf Legislation Deddfwrfa Legislature

Duration:00:15:16

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

3/5/2024
TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302 Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed? Prif leisydd Main vocalist Ffyddlon Faithful Ymwybodol Aware COFIO DYDD SUL 2502 A miwsig Y Cledrau oedd i’w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on’d ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr? Gwerthfawrogi To appreciate Y gwirionedd The truth Ar bwys Wrth ymyl Gwneud yn fawr Making the most Cyfoedion Peers Ai peidio Or not Sbo I suppose Trin To treat Tynnu sylw To draw attention RHYS MWYN DYDD LLUN 2602 Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd! Ar raglen Rhys Mwyn clywon ni bod y Beatle enwog, George Harrison, wedi treulio amser yng ngwesty Portmeirion pan gafodd sengl y Beatles 'Get Back' ei rhyddhau ar Ebrill 11 1969. Rheolwr Safle Portmeirion, Meurig Rees Jones, sy’n sôn yn y clip nesa ‘ma am sut daeth e ar draws bwydlen oedd wedi ei harwyddo gan George Harrison ar y diwrnod hwnnw. Rhyddhau To release Arwyddo To sign Yr arbenigwr The expert Y cysylltiadau The connections Anhygoel Incredible Amrywiaeth Variety Ymchwil Research Atgofion Memories DROS GINIO DYDD MAWRTH 2702 Hanes diddorol George Harrison ym Mhortmeirion yn fanna ar raglen Rhys Mwyn. Sut dysgoch chi Gymraeg - ar-lein, wyneb yn wyneb neu’r ddwy ffordd? Pa ffordd ydy’r mwya effeithiol tybed? Cafodd llythyr ei gyhoeddi yn Golwg yn dweud ei bod yn bwysig cael gwersi Cymraeg wyneb yn wyneb yn dilyn twf dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Jennifer Jones fuodd yn trafod hyn ar Dros Ginio a chafodd hi sgwrs gydag Alison Roberts o’r Alban, ond sydd nawr yn byw yng Nghymru, yn sôn am sut aeth hi ati i ddysgu’r iaith Effeithiol Effective Wyneb yn wyneb Face to face Cymuned Community Anghonfensiynol Unconventional CARYL PARRY JONES DYDD MAWRTH 2702 Alison enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg yn anhygoel on’d yw hi, o feddwl nad ydy hi erioed wedi bod mewn dosbarth Cymraeg! Beth sy’n gwneud bwyty da? Llio Angharad, sy’n sgwennu am deithio a bwyd ar y gwefannau cymdeithasol, fuodd yn trafod hyn efo Caryl Parry Jones ddydd Mawrth wythnos diwetha Gwefannau cymdeithasol Social media Hynod o bwysig Extremely important Crafu To scratch Y goleuo The lighting Swnllyd Noisy (H)wyrach Efallai ALED HUGHES DYDD MERCHER 2802 Caryl a Llio yn trafod beth sy’n gwneud bwyta da yn fanna. Dych chi’n cytuno â nhw? Pawlie Bryant o Santa Barbara fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes ddydd Mercher diwetha. Mae Pawlie yn gerddor ac mae e newydd sgwennu ei gân gynta yn Gymraeg! Does dim llawer o amser ers i Pawlie ddechrau dysgu Cymraeg a gofynnodd Aled iddo, pryd oedd y tro diwetha iddo ymweld â Chymru… Cerddor Musician O’r blaen Previously Y Deyrnas Unedig The UK Dinesydd Citizen Sylweddolais i I realised Swyddogol Official Deunaw 18

Duration:00:17:11

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 27ain o Chwefror 2024

2/27/2024
Pigion Dysgwyr – Japan Wythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol Aware Yn llythrennol Literally Gofod Space Yn y bôn Essentially Lle ddaru Ble wnaeth Y tu hwnt Beyond Rheolau Rules Parch Respect Ymddwyn To behave Meistroli To master Pigion Dysgwyr – Adam Jones Traddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddorol on’d ife? Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei nabod. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd e’n 3 oed yng ngardd ei dad-cu, neu daid, yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo, a fe ddechreuodd meithrin sgiliau a gwybodaeth garddio Adam.. Balch Proud Ar goedd Publicly Cwato To hide Rhyched o dato A furrow of potaoes Tueddiad A tendency Mas draw Yn fawr iawn Gwybedyn bach A small fly Awch A keeness Cyfuno To combine Cenedlaethau Generations Pigion Dysgwyr – Rhys Meirion Felly mae diolch i dad-cu Adam am y rhaglenni garddio gwych sydd ar S4C. Gwestai Shan Cothi yn ddiweddar ar gyfer slot Cofion Cyntaf oedd y canwr Rhys Meirion. Yn y rhan yma o’r rhaglen mae gwestai gwahanol yn cofio eu dyddiau cynnar a rhai o’u hatgofion cynhara. Dyma Rhys Meirion i sôn am ei atgofion e….. Atgofion cynhara Earliest memories Diffoddwr tân Fire Extinguisher Gollwng To drop Arogl A smell Gwydn Tough Pigion Dysgwyr – RNLI Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd, fel Rhys Meirion, yn cofio arogl cinio ysgol! Eleni mae’r RNLI yn dathlu penblwydd yn 200 oed. Ers 1824 mae badau achub ar draws Ynysoedd Prydain wedi bod yn achub bywydau a phnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones air gyda Mali Parry Jones o Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Mae hi’n gwirfoddoli gyda Bad Porth Dinllaen a dyma hi’n cofio gweld y bad achub yn mynd allan pan oedd hi’n ifanc. Badau Achub Lifeboats Gwirfoddoli To volunteer Rhan annatod Integral part Galwad A call Clogwyni Cliffs Ymdrech ehangach A wider effort Elusen Charity Ysgogi To motivate Gwythiennau Veins Pigion Dysgwyr – Rent Mae’n amlwg bod y badau achub yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymuned Morfa Nefyn on’d yw e? Llongyfarchiadau mawr i’r RNLI ar ei ben-blwydd yn 200 oed. Nos Fercher ddiwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Steffan Lloyd. Mae Steffan yn canu mewn cynhyrchiad o’r sioe lwyfan Rent sydd ymlaen ym Mhort Talbot yr wythnos hon. Gofynnodd Caryl i Steffan yn gynta sut mae’r ymarferion wedi bod yn mynd hyd yn hyn Cynhyrchiad Production Cyfarwyddwr cerddoriaeth Musical director Golygfa Scene Cywilydd gen i ddweud I’m ashamed to say Cyflwyno To present Pigion Dysgwyr – Jemeima A phob lwc i Steffan a’r cast ar y perfformiad. Dw i’n siŵr ei bod yn sioe ardderchog. Dych chi’n gwybod am hanes Jemima Nicholas helpodd rwystro glaniad y Ffrancod yn Sir Benfro yn 1797. Wel dyma y Parchedig Richard Davies o Gasnewy(dd) Bach ger Abergwaun i sôn am ddigwyddiad dros y penwythnos i gofio am Jemima ar Bore Cothi fore Iau. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes y diwrnod hwnnw. Rhwystro glaniad To prevent the landing Ildio To surrender Amlwg Prominent Dadorchuddio To unveil Mynwent Cemetary Carreg goffa Memoria stone Arddangosfa hanesyddol Historical exhibition Brodwaith Tapestry Ysbrydoli To inspire Mas Allan

Duration:00:12:32

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 20fed o Chwefror 2024

2/20/2024
Pigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi’n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a’r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday Crempogau/pancos Pancakes Poblogaidd Popular Iseldiroedd Netherlands Ffrimpan Padell ffrio Burum Yeast Dwlu ar Hoff iawn o Gwead Texture Twym Cynnes Dodi Rhoi Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina’n sôn am y gwahanol mathau o grempogau sydd i’w cael. Dych chi'n cael problemau gyda'ch cefn? Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae bron i filiwn o bobl y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw'n rhy dost i weithio oherwydd poen yn eu cefnau. Cafodd Gwyn Loader, oedd yn cadw sedd Jennifer Jones yn dwym bnawn Mawrth, sgwrs gyda Fflur Roberts o Gaernarfon, sy'n ffisiotherapydd ers pymtheg mlynedd. Gofynnodd Gwyn iddi hi’n gynta oedd hi'n credu bod y nifer o bobl sy’n gweithio o gartre ers y pandemig wedi gwneud y sefyllfa’n waeth? Swyddfa Ystadegau Gwladol Office for National Statistics Yn rhy dost Yn rhy sâl Y Deyrnas Unedig The UK Cymalau Joints Gwanio To weaken Pigion Dysgwyr – Chicago Y pandemig wedi gwneud drwg i’n cefnau ni yn ôl y ffisiotherapydd Fflur Roberts a chyngor pwysig iawn ganddi am yr angen i symud o’r sgrîn bob hyn a hyn.. Mae Cymdeithas Gymraeg Chicago yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth eleni. Aelod o’r Gymdeithas yw Catrin Rush o ardal Aberporth ger Aberteifi yn wreiddiol, a chafodd hi sgwrs gyda Aled Hughes ddydd Mercher. Gofynnodd Aled iddi hi faint o aelodau oedd gan y Gymdeithas... Chwarter canrif Dau ddeg pum mlynedd Bodolaeth Existence Tu fas Tu allan Digwyddiad Event Goleuo Illuminated Pigion Dysgwyr – Y Lleuad Llongyfarchiadau mawr i Gymdeithas Gymraeg Chicago a phob hwyl ar y dathlu on’d ife? Bore Iau diwetha cafodd Gwenllian Grigg a Dylan Ebenezer gwmni Geraint Jones ar Dros Frecwast i sôn am deithiau roced i’r lleuad gan gychwyn ym mis Rhagfyr 1972. Unol Daleithiau USA Y lleuad The moon Glanio To land Llwyddiannus ofnadwy Terribly successful Gofodwyr Astronauts Pridd Soil Llwch Dust Aflwyddiannus Unsuccessful Ymdrechion Attempts Pigion Dysgwyr – Rex Ychydig o hanes teithiau i’r lleuad yn fanna ar Dros Frecwast. Fore Gwener diwetha ar eu rhaglen cafodd Trystan ac Emma gwmni y ffermwr o Abergwaun Charles Lamb. Mae gan Charles gi defaid annwyl iawn o’r enw Rex. Mae Rex yn dipyn o gymeriad ac yn fwy na pharod i ddangos i Charles beth mae e’n hoffi a beth mae e’n ei gasau Yn fwy na pharod More than ready Ffindir Finland Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis Rex yn ei gwneud yn glir nad oedd e am fynd i’r gwely! Bob mis ar ei rhaglen mae Shan Cothi yn cael cwmni yr adarwr Daniel Jenkins Jones i sôn am Aderyn y Mis. Y tro ‘ma y Gornchwiglen oedd o dan y chwyddwydr a dyma Daniel i sôn mwy am yr aderyn arbennig hwn…. Adarwr Ornithologist Cornchwiglen Lapwing Chwyddwydr Microscope Yn gyfarwydd Familiar Nythu To nest Wedi prinhau Has become scarce Gwarchodfeydd natur Nature reserves Pert Del Adenydd Wing Pluen Feather Trawiadol Striking

Duration:00:12:24

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 13eg o Chwefror 2024

2/13/2024
Pigion Dysgwyr – Max Boyce Daeth y newyddion trist wythnos diwetha am farwolaeth Barry John cyn chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod yn 79 mlwydd oed. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn a dyma ei ffrind, Max Boyce, yn talu teyrnged iddo fe fore Llun diwetha ar Dros Ginio Talu Teyrnged To pay a tribute Wastad Always Cyfweliad Interview Cae o ŷd A field of corn Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod Gostyngedig Humble Dewin A wizard Sylw Attention Amlwg Prominent Enwogrwydd Fame Pigion Dysgwyr -Twr Marcwis A buodd timau rygbi cenedlaethol Cymru a Lloegr yn talu teyrnged i Barry John cyn y gêm fawr yn Twickenham ddydd Sadwrn diwetha. Roedd e wir yn seren on’d oedd e? Mae tŵr hynafol wedi cael ei ail agor ar lan y Fenai ger Llanfairpwll. Ers dros 10 mlynedd does neb wedi cael cerdded i ben Tŵr Marcwis oherwydd gwaith adnewyddu ar y safle. Cafodd Aled Hughes gwmni rheolwraig y safle Delyth Jones Williams ar ei ymweliad â’r tŵr, a dyma hi’n rhoi ychydig o hanes y Marcwis a’r tŵr... Tŵr hynafol Ancient Tower Ail agor To reopen Adnewyddu To renovate Anrhydeddu To honour Clodi To praise Llawdriniaeth Surgery Colofn Column Dehongli To interpret Yn uniongyrchol Directly Cefndir Background Pigion Dysgwyr – Miriam Lynn Ychydig o hanes Marcwis Môn a’r tŵr enwog yn Llanfairpwll yn fanna ar raglen Aled Hughes. Miriam Lynn oedd gwestai Beti a’i Phobl yr wythnos hon. Cafodd Miriam ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger yr Wyddgrug yn Sir Fflint ac aeth hi i Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Ar ôl iddi hi raddio gwnaeth hi Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, a dyma hi’n sôn wrth Beti am ei gyrfa….. Difaru To regret Doethuriaeth Doctorate Ar y fainc On the bench Hybu iechyd Promoting health Caergrawnt Cambridge Gweithwyr Cymdeithasol Social Workers Mewn gofal In care Beichiog Pregnant Gwerth Value Pigion Dysgwyr – Caryl Miriam Lynn oedd honna yn sôn wrth Beti George am ei gyrfa ddiddorol. Cafodd cân ddiweddara y grwp Tocsidos Blêr o ardal Dinbych ei lansio ar raglen Caryl Parry Jones wythnos diwetha. Dyfan Phillips o’r grŵp gafodd sgwrs gyda Caryl nos Fawrth….. Diweddara Most recent Pedwarawd Quartet Wst ti be? Wyt ti’n gwybod beth? Fel ‘tae As it were Bywoliaeth Livelyhood Yn ein plith Amongst us Twrnai Solicitor Dyfalu To guess Tynnu stumiau Pulling faces Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna gymeriadau yw’r Tocsidos Blêr on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer o hwyl i’w gael yn eu nosweithiau. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni Sara Croesor. Trefnodd Sara gyngerdd yn Neuadd y Dref Llanfairfechan yn ddiweddar gyda’r grwpiau gwerin Pedair a Tant yn perfformio. Dyma Rhys yn gofyn iddi hi sut aeth pethau? Lleisiau Voices Dewr Brave Aelod Member Cefnogi To support Awyrgylch Atmosphere Offeryn Instrument Sain Sound Yn fyw Live Telyn Harp Cyflwyno To present Pigion Dysgwyr – Caryl Roese Ac arhoswn ni ym myd cerddoriaeth ar gyfer y clip nesa ma. Buodd Caryl Roese o Ystradgynlais yn gantores opera lwyddiannus yn Llundain am gyfnod a buodd hi hefyd yn byw yn Ne Affrica. Mae hi bron yn 87 oed erbyn hyn a dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi yr wythnos diwetha am ei bywyd a’i gyrfa... Chi’n ‘bod Dych chi’n gwybod Cerddorfa Orchestra Arweinydd Conductor Academi Brenhinol The Royal Academy Orielau Galleries Sefyll am Aros am Disglair Brilliant

Duration:00:12:37

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 6ed o Chwefror 2024

2/6/2024
Pigion Dysgwyr – Bethesda Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent.. Mynwent Cemetery Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological Trust Ddaru nhw Wnaethon nhw Ymchwil Research Dogfennau Documents Oes Victoria Victorian Age Ehangu To expand Bwriad Intention Stad ddiwydiannol Industrial Estate Pigion Dysgwyr – Robat Arwyn Ychydig o hanes Mynwent Tanysgrafell yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae ymchwil yn dangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd yn gallu helpu'r cof wrth i bobl fynd yn hŷn. Mae dau ddeg pum mil o bobl wedi bod yn rhan o astudiaeth ddangosodd bod gwell cof gan bobl oedd wedi bod yn chwarae offeryn neu oedd yn aelodau o gôr. Ydy hynny’n wir tybed? Wel dyma arweinydd Côr Rhuthun, Robat Arwyn, ar Dros Ginio bnawn Mawrth yn dweud pam ei fod e’n cytuno gyda’r astudiaeth... Offeryn Instrument Arweinydd Conductor I gyd ar y cof All by heart Arwyddion cerddorol Musical gestures Cydsymud Coordination Ymennydd Brain Yn effro Awake Gradd Grade Gweddill y teulu The rest of the family Pigion Dysgwyr – Snwcer Felly dyna ni, os dych chi eisiau gwella eich cof ymunwch â chôr! Cafodd Caryl Parry Jones gwmni Elfed Evans ar ei rhaglen nos Fawrth ddiwetha. Mae Elfed yn aelod o Glwb Snwcer Pwllheli a chafodd e gyfle i hyrwyddo’r clwb yn ei sgwrs gyda Caryl. Gofynnodd hi i Elfed ers pryd mae e wedi bod yn aelod o’r clwb….. Hyrwyddo To promote Wedi gollwng Dropped Denu To attract Poblogaidd popular Pob gallu Every ability Pigion Dysgwyr – Steffan Rhodri Elfed o Glwb Snwcer Pwllheli oedd hwnna’n sgwrsio gyda Caryl Parry Jones. Yr actor Steffan Rhodri oedd gwestai arbennig Bore Sul. Mae e wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar fel esboniodd e wrth Elliw Gwawr... Yn ddiweddar Recently Ar fin dod mas About to come out Wedi ei gyfarwyddo Directed Gwaith dur Steelworks Teulu cyffredin Ordinary family Ffoaduriaid Refugees I raddau To an extent Mae’n anochel It’s inevitable Pigion Dysgwyr – Geraint Rowlands Wel mae Steffan Rhodri wir wedi bod yn brysur yn ddiweddar on’d yw e? Yn y clip nesa ‘ma byddwn yn clywed y patholegydd o Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, Geraint Lloyd Rowlands, yn sôn am sut buodd e’n codi arian er cof am Alan, ei ffrind o ddyddiau ysgol. Buodd Alan farw o Gancr y Pancreas dwy flynedd yn ôl, a dyma Geraint ar Bore Cothi ddydd Mercher diwetha i sôn mwy am yr her mae wedi ei chwblhau i gofio am ei ffrind... Her A challenge Wedi ei chwblhau Has completed Campfa Gym Wedi hen gyrraedd Easily reached Ymdrech Effort Pigion Dysgwyr – Bryn Terfel Wel dyna wych, Llongyfarchiadau mawr i Geraint am gerdded mor bell er cof am ei ffrind, on’d ife? Mae’r canwr opera Bryn Terfel newydd ryddhau albwm newydd, a chafodd Alun Thomas sgwrs gyda fe ar y rhaglen Bore Sul. Buodd Bryn yn sôn am yr adeg pan ganodd e ddeuawd gyda Sting. Gofynnodd Alun iddo fe sut wnaeth e gyfarfod â’r canwr pop enwog am y tro cynta Newydd ryddhau Just released Deuawd Duet Cyngerdd mawreddog A grand concert Cefn llwyfan Backstage Arddull Style Cysylltiad Connection Cychod Boats Rhediad A run

Duration:00:13:22

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 30ain o Ionawr 2024

1/30/2024
Pigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio’r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb Petition Llofnodion Signatures Prif Weithredwr Chief Executive Gwyrthiau Miracles Bras Bold Tristwch Sadness Cefnogwyr Fans Digwyddiad Event Pigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni glywed y cefnogwyr yn gweiddi Cymru yn lle Wales yn y dyfodol. Cawn weld on’d ife? Nos Fawrth diwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Del Jones. Mae Del yn dod o Garn Fadryn ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ond yn byw nawr yng Nghlynnog Fawr gyda’i phartner Math. Erbyn hyn mae hi wedi dilyn ei breuddwyd ac agor siop yng Nghricieth a hefyd mae hi‘n rhedeg gwasanaeth glanhau. Dyma Del yn esbonio y daith gymerodd hi ar ôl iddi hi adael ei swydd fel rheolwr gwesty…… Breuddwyd Dream Penderfyniad Decision Cryfder Strength Ymchwil Research Ffyddlon Faithful Rhan amser Part time Y Cyfnod clo Lockdown Heriol Challenging Pigion Dysgwyr – Treorci A phob lwc i Del gyda’i menter newydd on’d ife? Ar eu rhaglen Sadwrn cafodd Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips air gyda rhai oedd wedi dod i dafarn y Lion yn Nhreorci . Mae yna gynllun wedi dechrau yn nhrefi Aberdâr a Threorci i annog dysgwyr i fynd i siopau ble mae yna siaradwyr Cymraeg yn gweithio, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Hapus i Siarad yw enw’r cynllun ag un oedd yn y Lion oedd Jo… Menter Venture Annog To encourage Sylweddoli To realise Dwy fenyw Dwy ddynes Ieuenctid Youth Diwylliant Culture Yn ddifrifol (o ddifri) Seriously Pigion Dysgwyr – Guto Bebb On’d yw hi’n bwysig rhoi cyfle i ni gyd fedru defnyddio’n Cymraeg yn y gymuned? Da iawn a phob lwc i griw Hapus i Siarad. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha oedd cyn Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb. Un o’i ddiddordebau mwya ydy cerddoriaeth fel buodd e’n sôn wrth Beti... Aelod Seneddol Aberconwy Former Aberconwy MP Diléit Diddordeb Gor-ddweud To exaggerate Buddsoddi’n helaeth To invest massively Casgliad A collection Mynd at fy nant i Interests me Dw i’n dueddol o I tend to Pigion Dysgwyr – Mills and Boon Pedair mil o albymau? Wel dyna beth yw casgliad helaeth on’d ife? Thema rhamantus oedd ar Dros Ginio bnawn dydd Iau pan buodd Lissa Morgan yn sôn am gyfres ramant Mills and Boon. Mae Lissa wedi bod yn ysgrifennu llyfrau i’r cwmni a dyma hi i ddweud ei stori. Cyhoeddi To publish Cyflwyno To introduce Cynhyrchiol Productive Mor awyddus So eager Tu hwnt Beyond Pigion Dysgwyr – Grav Digon o ramant ar Dros Ginio ar ddydd Santes Dwynwen! Ers degawd bellach mae’r actor Gareth John Bale wedi bod yn perfformio y sioe un dyn “Grav” am hanes bywyd y chwaraewr rygbi a’r darlledwr Ray Gravelle, o Fynydd-y-garreg ger Cydweli. Ond cyn bo hir bydd y sioe yn teithio i Adelaide yn Awstralia. Dyma Gareth i sôn mwy… Degawd Decade Rhyfeddol Amazing Antur Adventure Ymateb Response Cwpla Gorffen Cawr Giant Pwysau Pressure Dehongliad Interpretation Gwyro To deviate Gofod Space Yn uniongyrchol Directly

Duration:00:12:57

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 23ain o Ionawr 2024.

1/23/2024
Pigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a’r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish Army Catrawd Regiment Brwydro To fight Hanu o To haul from Cipio To capture Gwlad Pwyl Poland Dengid Dianc Rhyddhau To release Mewn dyfynodau In exclamation marks Y Dwyrain Canol The Middle East Pigion Dysgwyr – Esgusodwch Fi Anne Uruska yn fanna‘n sôn am hanes diddorol ei thad, ac mae’n siŵr bod llawer ohonoch chi’n nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i’r gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal â nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i sôn am un o’i brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix…. Cyfarwyddwr Director Cyfresi Series Diweddara Most recent Dau grwt Dau fachgen Eisoes Already Ehangach Wider Cenhedlaeth Generation Profiad Experience Yn ddynol Human Hoyw Gay Pigion Dysgwyr – Antarctica Euros Lyn oedd hwnna’n sôn am y gyfres Heartstopper sydd i’w gweld ar Netflix. Does dim llawer o bobl sy’n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi’n siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha…. Biolegydd morol Marine biologist Llong Ship Cynefin Habitat Anghyfforddus Uncomfortable Sbïad Edrych Pigion Dysgwyr – Diwrnod Cenedlaethol yr Het Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on’d yw hi? Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi Casgliad sylweddol A substantial collection Cael gwared To get rid Hen dylwyth Old family Menyw Dynes Drych Mirror Pigion Dysgwyr – Clare Potter A dw i’n siŵr bod Angela’n edrych yn smart iawn yn ei hetiau. Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd. Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i’r Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru. Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George Llenyddiaeth Literature Bardd Poet Ysbrydoli To inspire Mam-gu Nain Emynau Hymns Rhegi To swear O dan y wyneb Under the surface Ffili credu Methu coelio Braint A privilege Pigion Dysgwyr – Nofio Gwyllt Beti George yn fanna’n sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha. Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o’r enw Y Cyntaf a’r Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o’r enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e’n byw a dyma fe’n sôn wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e’n ei wneud…. Degawdau Decades Llynnoedd Lakes

Duration:00:12:34

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

1/16/2024
Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a’i rhan hi ynddi. Cyfres Series Ymdrin â To deal with Mabwysiadu To adopt Hoyw Gay Tyner Gentle Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes Gwyneth Keyworth oedd honna’n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo’r Gymdeithas Bêl-droed. Gweledigaeth Vision Pennaeth Cyfathrebu Head of Communication Cyflwyno Introduce Naws Cymreig A Welsh ethos Plannu hadau Planting seeds Gorfodi To force Diwylliant Culture Hunaniaeth Identity Cynrychioli To represent Balchder Pride Ymateb To respond Gan amlaf More often than not Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds. Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a’I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o’n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd…… Ffydd Faith Dwyn i fyny Brought up Gweddïo To pray Aballu And so on Pigion Dysgwyr – Pilates Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau Annog To encourage Garddwrn Wrist Y glun The hip Anadlu To breath Asennau Hips Tueddu i or-ddatblygu Tend to over develop Sbio Edrych Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith. Trwy gyfrwng Through the medium Gweithgareddau Activities Pigion Dysgwyr – Pantomeim Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? . Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o’r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi’n gynta ers pryd mae’r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim Elusennau Charities Llwyfan Stage Pres Arian Bant I ffwrdd Y brif ran The main part Ymylol Peripheral Tywysoges Princess Tylwyth teg Fairy

Duration:00:12:44

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 9fed o Ionawr 2024.

1/9/2024
Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd Representative Gŵyl gerddorol Musical festival Safon Quality Anelu ato To aim for Datganiad Recital Yn elfennol bwysig Of prime importance Cydbwysedd Balance Cyfansoddwyr Composers Cyfeilio To accompany Dehongliad Interpretation Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the month Arlunydd Artist Cyflwynwyr Presenters Uchafbwyntiau Highlights Murluniau Murals Ogofau Caves Tafliad carreg A stone’s throw Amgenach Different Dylunio Designing Arbrofi Experimenting Pigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose Medal Gofid Concern Annog To encourage Dychymyg Imagination Annibynnol Independent Gwnïo To sew Pwytho To stitch Penderfynol Determined Disgyblaeth Discipline Dadwneud To undo Pigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi’n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was lured Y Chweched Sixth form Traethawd estynedig Dissertation Cyhoeddiad A publication Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Fel petai Seems to Bellach yn yr etholaeth In the constituency by now Rhyfedd Strange Pigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna’n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi’r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy... Wedi dylanwadu Had influenced Cyflenwi To supply Diwydiant Industry Pigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy’r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o’n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor Musician Y Canol Oesoedd The Middle Ages Arglwyddi Lords Yr Ucheldir The Highlands Caerau Forts Cors halenog Salty marsh Mintai Troop Braw A fright Cenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusades Ymestyn To extend

Duration:00:15:41

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr, yr 2il o Ionawr 2024.

1/2/2024
1 John ac Alun – ymweld â Phorthdinllaen: Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni aeth John ac Alun am dro o gwmpas eu hoff lefydd ym Mhen Llŷn, a dewis John oedd cael mynd draw i Borthdinllaen, a rhoi gwahoddiad i Meinir Pierce Jones, un o ferched yr ardal i ddod yno am sgwrs. Arwyddocâd Significance Cysgod diogel Safe shelter Delfrydol Ideal Dyfnder Depth Porthladdoedd Ports Gofaint Blacksmith Seiri Carpenters Safle diwydiannol An industrial site Gan fwya Mostly Argian Good Lord Trochi traed Paddling 2 Clip Aled Hughes: Mae hi’n anodd meddwl am Borthdinllaen fel safle diwydiannol yn tydy? Tybed faint o’r twristiaid sy’n mynd yno bob blwyddyn sy’n gwybod am hanes y lle? Ac mi arhoswn ni ym Mhen Llŷn efo’r clip nesa ‘ma. Ar Orffennaf y 26ain y llynedd, wrth edrych ‘mlaen at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mi gafodd Aled Hughes gwmni’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac aeth y ddau i gopa’r Eifl, a dyma chi flas o’u sgwrs. Awgrym A suggestion Machlud Sunset Rhufeiniaid yn cilio The Romans withdrawing Anwybyddu To ignore Gwyddelod Irish people Gwaywffon Spear Penwaig Herring Dinasyddiaeth Citizenship Diwylliedig Cultured Tyndra ar y ffin Tension on the border 3 Beti a’i Phobol: Dipyn bach o hanes ardal yr Eifl yn fanna gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd. Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol ar y 7fed o Fai 2023. Mae Sioned yn Gwnselydd ac yn Seicotherapydd ac yn dod yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Sir Conwy. MI fuodd hi’n gweithio mewn sawl maes gwahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Sioned ydy Cwnselydd y rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei hamser yn dioddef o gancr y fron: Archdderwydd Archdruid Cancr y fron Breast cancer Efo chdi Gyda ti Cwffio Ymladd Dychmygu Imagining Cyfres Series Triniaethau Treatments Ffydd Faith Blin Yn grac Ymdopi Coping Y blaenoriaeth The priority 4 Bore Cothi: Sioned Lewis oedd honna’n siarad am ei phrofiad o fod efo cancr y fron. Ar Fedi’r 27ain y llynedd, mi roedd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd yn 80, ac i nodi’r garreg filltir arbennig yma mi fuodd Max allan ar y ffordd unwaith eto yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau. Mi gafodd Shan sgwrs efo Max cyn y daith, gan gychwyn drwy ofyn oedd y penderfyniad i deithio eto’n un anodd? Carreg filltir Milestone Yr hewl (heol) The road Rhoi’r ffidil yn y to To give up Cwpla Gorffen Ysbrydoli To inspire Clwb gwerin Folk club Uniaethu To identify Ystyried To consider 5 Caryl Parry Jones: Y bytholwyrdd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd drwy berfformio - wel be arall ynde? Yn ôl ym mis Mai 2023 cafodd Caryl sgwrs gyda Heather Hughes. Mae Heather yn aelod o grŵp nofio Titws Tomos Môn. Yn 2019 mi gafodd hi waedlif ar yr ymennydd a chyflwr o’r enw Hydrocephalus, sef dŵr ar yr ymennydd. Ers hynny mae hi’n nofio yn y môr ym mhob tywydd. Yn y clip hwn cawn glywed Heather yn sôn am ei phrofiad, a pha mor llesol ydy nofio yn y môr iddi hi: Bytholwyrdd Evergreen Gwaedlif ar yr ymennydd Brain haemorrhage Cyflwr Condition Llesol Beneficial Poblogrwydd Popularity Llwythi Loads Goro Gorfod 6 Trystan ac Emma: Dyna enw da ar y grŵp ynde – Titws Tomos Môn! Ddechrau mis Rhagfyr mi gafodd Rhaglen Trystan ac Emma wahoddiad i Gaffi Largo ym Mhwllheli. Mi fuodd yna lawer o hwyl a sbri yn y caffi - yn siarad efo’r staff ac efo pobl leol. Un ohonyn nhw oedd Christine Jones o dre Pwllheli: Haeddu To deserve Bobol annwyl! Goodness me! Brolio To boast Yn rhagori Surpasses Nionyn picl Pickled onion 7 Ffion Dafis: Christine Jones – un o gymeriadau ardal Pwllheli yn dod â llwyth o hwyl a chwerthin i Gaffi Largo’r dre. Ac yn ardal Pwllheli oedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth gwrs ac yno cafodd fersiwn e-lyfr o’r nofel boblogaidd iawn, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, ei lawnsio, efo’r actorion John Ogwen a Maureen Rhys yn ei darllen. Yn y clip hwn ar raglen Ffion Dafis mae John yn sôn am y tro cynta daeth o ar draws y nofel: Digwyddiad Event...

Duration:00:20:55

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Ionawr 2024.

12/26/2023
1 Uffern Iaith y Nefoedd: Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o’r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon: Nid anenwog Famous (not unfamous) Cyffwrdd To touch Dychwelyd To return Aflonyddu To disturb Nadoligaidd Christmasy Clych Bells 2 Elin Fflur a’r Gerddorfa: Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu’n wael yn fanna. Ddechrau’r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o’r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a’r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002: Cerddorfa Orchestra Breintiedig tu hwnt Privileged beyond Crïo Llefain Cryndod Tremor Golygu To mean Oesol Everlasting Uniaethu To identify Mor gyfarwydd So familiar 3 Rhaglen Cofio: Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor. Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama’r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i’r plant grwydro o’r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o’r fath: Drama’r Geni Nativity play Gweinidog Minister Hogyn Bachgen Gŵr y llety Innkeeper Yn ffradach Chaotic Ymgnawdoliad Incarnation Beichiog Pregnant Gweddi A prayer Mo’yn Eisiau 4 Chwalu Pen: On’d oes yna hwyl efo Drama’r Geni pan mae’r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain? Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy’r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw’n trio dyfalu’r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o’r rheolau: Uchafbwyntiau Highlights Darlledu To broadcast Dyfalu To guess Atgoffa To remind Rheolau Rules Y flwyddyn a fu The past year Cwblha! Complete! Cyn seren Former star 5 Ho Ho Hywel: Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy? Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma’r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o’i atgofion cynnar am y Nadolig : Atgofion Memories Tro ar ôl tro Time after time Tyddyn bach A smallholding Ar lethrau On the slopes Hel tai Going from house to house Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission Beudy Cowhouse Wedi sychu’n grimp Dry as a bone 6 Talwrn Nadolig: Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy’r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o’r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o’r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig’, a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem: Cerdd Poem Strach A mess Fflwr Blawd Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian Ffili treulio Can’t digest Di dafod Tongueless Llosg cylla Heartburn Yn sgit Keen on Ysgewyll Sprouts Achwyn Cwyno Tynn Tight Egwyddor Principle Newydd garw Bad news 7 Rhaglen Ifan: Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o’r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon. Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a’r gwaetha gafodd hi erioed: Allweddell Keyboard Cwningen Rabbit Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Cwffio Ymladd Alla i ddim dychmygu I can’t imagine Hwyrach Efallai Erchyll Terrible

Duration:00:19:53

Ask host to enable sharing for playback control

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Ragfyr 2023.

12/19/2023
1 Aled Hughes : Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae’n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion: Traddodiadau Traditions Diniwed Innocent Darn o bren A piece of wood Boncyff A log Ymwybodol Aware Ymddangos Appearing Melysion Sweets Curo To beat Carthen A cover Penodol Specific Gwasgaru’r llwch Dispersing the ash 2 Ffion Dafis : Golwg yn fanna ar rai o draddodiadau Nadolig gwahanol iawn sydd i’w gael yng ngwledydd Ewrop gan Mair Tomos Ifans. Mi fuodd y pianydd rhyngwladol Llŷr Williams yn perfformio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, ac mi gafodd Ffion Dafis sgwrs efo fo am sut mae o’n mynd ati i ymarfer a dewis ei raglen ar gyfer perfformio: Bysedd Fingers Hyblyg Flexible Ymwybodol Aware Toriadau Breaks Yn fwy cyfarwydd More familiar Dehongli To interpret Datblygu To develop Amlygu ei hun Manifests itself 3 Bore Cothi : Y pianydd Llŷr Williams oedd hwnna’n rhannu ambell i gyfrinach efo Ffion Dafis am sut mae o’n paratoi at berfformio. Ddydd Llun yr 11eg o Ragfyr, Alison Huw y gogyddes oedd gwestai Shân Cothi. Trafod ‘sprouts’ oedd hi, neu ysgewyll Brwsel yn Gymraeg. Nid pawb sy’n hoff iawn o’r ysgewyll naci! Ond yma mae Alison yn sôn am ffordd hyfryd o’i weini ar gyfer eich cinio Dolig: Cyfrinach Secret Ysgewyll Sprouts Gweini To serve Cnau castanwydden Horse chestnut Hallt Salty Plisgo Peeling Ffwrn Popty Moethus Luxurious Rhwydd Hawdd Yn glou iawn Yn gyflym iawn 4 Dros Ginio : Wel dyna i chi ambell i syniad am ginio Dolig llwyddiannus, ond be am lwyddo i fwynhau parti Nadolig? Mae yna ymchwil sy’n dangos bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus yn y partïon hyn. Mirain Rhys o Adran Seicoleg Coleg Prifysgol Met Caerdydd, a ‘Mr Cymdeithasu’ Stifyn Parri sy'n trafod sut mae paratoi'n gymdeithasol ar gyfer y partïon? Pryder a chynnwrf Anxiety and excitement Curiad fy nghalon My heartbeat Anadlu Breathing Baglu To trip Chwydu Vomiting Pynciau Topics Osgoi To avoid Sleifio mewn To sneak in Corwynt Hurricane Dadleuol Controversial Ysgogwyr Stimuli 5 Rhaglen Caryl Parry Jones: Wel dyna ni wedi cael syniadau coginio Nadolig, syniadau am sut i fwynhau partïon Nadolig ac rŵan dan ni’n mynd i glywed pa fath o Nadolig bydd Helen Evans o Fethesda yn ei fwynhau. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Helen a Shelley Rees oedd yn cadw sedd Caryl yn gynnes nos Fawrth y 12fed o Ragfyr. Unig blentyn Only child Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Y diwrnod canlynol The following day Llond tŷ A houseful

Duration:00:15:15